Course Overview - Addysg Grefyddol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)
UCAS Code: 3D3Z
**TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol (gyda SAC)**
Rydym yn byw mewn cymdeithas mor amrywiol syn cynnwys llawer o grefyddau, llawer o athroniaethau a llawer o systemau moesegol. O’r herwydd, mae’n allweddol ein bod yn datblygu gwybodaeth am y gwahanol feysydd hyn ymhlith cenedlaethau ifanc. Mae’r rhaglen TAR Addysg Grefyddol wedi’i strwythuro i hyrwyddo’r nod hwn ac mae’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol i ddod yn athrawon effeithiol, arloesol a gwybodus.
Bydd y cwrs TAR ym Mangor yn sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau a nodweddion a...
UCAS Code: 3D3Z
**TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol (gyda SAC)**

Rydym yn byw mewn cymdeithas mor amrywiol syn cynnwys llawer o grefyddau, llawer o athroniaethau a llawer o systemau moesegol. O’r herwydd, mae’n allweddol ein bod yn datblygu gwybodaeth am y gwahanol feysydd hyn ymhlith cenedlaethau ifanc. Mae’r rhaglen TAR Addysg Grefyddol wedi’i strwythuro i hyrwyddo’r nod hwn ac mae’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol i ddod yn athrawon effeithiol, arloesol a gwybodus.

Bydd y cwrs TAR ym Mangor yn sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau a nodweddion allweddol i ddod yn athrawon Astudiaethau Crefyddol or radd flaenaf. Yn ogystal â datblygu’r galluoedd craidd i fod yn athrawon Astudiaethau Crefyddol rhagorol, byddwch hefyd yn datblygu llawer o sgiliau a fydd yn berthnasol ar gyfer rôl athrawon Dyniaethau, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Dyniaethau, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion y Cwricwlwm newydd i Gymru.

**Pam astudio gyda ni?**
• Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o addysgu cenedlaethau o bobl syn ymddiddori mewn crefydd, athroniaeth a moeseg ac, or herwydd, mae ganddi lawer o adnoddau, deunyddiau ac arbenigeddau i ddatblygu ymarferwyr addysgu or safon uchaf.

• Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoir sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.

• Cyfle i astudio tran ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg pun a ydych yn ddechreuwr llwyr neun ddefnyddiwr rhugl or iaith.

Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Maer TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad ir proffesiwn addysgu. Dylair rhai syn ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.

**Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.**
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd ân cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfunor pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am **3F5T**.