Course Overview - Cymdeithaseg and Criminology & Criminal Justice
Gradd ddwyieithog yw Cymdeithaseg a Criminology/Criminal Justice. Mae’r radd yn cynnig dealltwriaeth o’r astudiaeth o gymdeithas, sefydliadau, bywyd a grwpiau cymdeithasol mewn perthynas a throsedd, gwyrni, dioddefwyr a niwed cymdeithasol. Drwy ddefnyddio ymchwil empeiraidd a dadansoddiad beirniadol rydym yn dod i ddeall sut mae cymdeithas yn delio efo troseddoldeb, rheolaeth gymdeithasol, plismona a chosb.
Mae’r radd yn cynnig y gorau o’r ddau ddisgyblaeth maes gan ddarparu rhaglen gyfoethog, profiad, hyblygrwydd a dwysder gwybodaeth a dealltwriaeth i weithio’n ddwyieithog...
Gradd ddwyieithog yw Cymdeithaseg a Criminology/Criminal Justice. Mae’r radd yn cynnig dealltwriaeth o’r astudiaeth o gymdeithas, sefydliadau, bywyd a grwpiau cymdeithasol mewn perthynas a throsedd, gwyrni, dioddefwyr a niwed cymdeithasol. Drwy ddefnyddio ymchwil empeiraidd a dadansoddiad beirniadol rydym yn dod i ddeall sut mae cymdeithas yn delio efo troseddoldeb, rheolaeth gymdeithasol, plismona a chosb.

Mae’r radd yn cynnig y gorau o’r ddau ddisgyblaeth maes gan ddarparu rhaglen gyfoethog, profiad, hyblygrwydd a dwysder gwybodaeth a dealltwriaeth i weithio’n ddwyieithog yn genedlaethol ag yn ryngwladol. Mae 100 o gredydau ar gael i chi astudio drwy’r Gymraeg yn flynyddol wrth ddilyn y radd hon petaech yn dymuno. Mae gwir dewis ieithyddol cryf ar gael wrth ddewis y radd hon.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen) L30F.