Course Overview - Product Design (Welsh-medium course)
BA Dylunio Cynnyrch (Product Design) - this course is taught through the medium of Welsh. For the English-medium course, please see Product Design W240.
Os oes gennych ddiddordeb gwireddu eich dychymyg, dymar cwrs i chi. Maen canolbwyntio ar amrywiaeth eang o sectorau dylunio, ac yn eich trochi ym maes dylunio a gweithgynhyrchu. Byddwch yn astudio methodolegau meddwl dylunio a dylunio syn canolbwyntio ar bobl. Bob blwyddyn bydd lleoliadau gwaith project gyda phartneriaid diwydiannol yn eich herio ach datblygun greadigol ac yn broffesiynol, gan ganiatáu i chi gael profiad o...
BA Dylunio Cynnyrch (Product Design) - this course is taught through the medium of Welsh. For the English-medium course, please see Product Design W240.

Os oes gennych ddiddordeb gwireddu eich dychymyg, dymar cwrs i chi. Maen canolbwyntio ar amrywiaeth eang o sectorau dylunio, ac yn eich trochi ym maes dylunio a gweithgynhyrchu. Byddwch yn astudio methodolegau meddwl dylunio a dylunio syn canolbwyntio ar bobl. Bob blwyddyn bydd lleoliadau gwaith project gyda phartneriaid diwydiannol yn eich herio ach datblygun greadigol ac yn broffesiynol, gan ganiatáu i chi gael profiad o amrywiol amgylcheddau gwaith, projectau a chwmnïau.

Beth yw dylunio? Ai…?

Gwella bywydau pobl?
Gwellar ffordd y mae pethaun gweithio?
Sut rydym yn trefnu pethau?
Gwella ein ffyrdd o gyfathrebu?
Sut rydym yn meddwl yn strategol?
Defnyddior dychymyg i greu pethau go iawn?
Gwneud newidiadau i gymunedau?
Dychmygu a dylunior dyfodol?
Dylunio profiadau a chynhyrchion y mae pobl yn eu hoffi?
Gwella ac arloesi gyda chynhyrchion a gwasanaethau?
Dechrau busnesau creadigol?
Gwneud penderfyniadau anodd?
Gweithio gydag eraill am y gorau?
Gwneud y byd yn lle gwell?

Os ydych yn cytuno ag un neu fwy or rhain, rydych yn ddarpar ddylunydd cynnyrch! Mae Dylunio Cynnyrch yn ymwneud â throi’r dychymyg yn wirionedd. Mae popeth yn ein hamgylchedd adeiledig wedi ei greu gan bobl i bobl. Daw dylunwyr o wahanol gefndiroedd, mae gan rai sgiliau creadigol, mae gan rai sgiliau technegol, ond mae pob un yn weledydd ac wedi ymroi i wella’r byd o’u hamgylch.. Mae Dylunio Cynnyrch yn cwmpasu amrywiol yrfaoedd i bobl greadigol sydd eisiau datrys problemau, arloesi a newid y byd.

Os oes gennych ddiddordeb troi eich dychymyg yn wirionedd, dymar cwrs i chi. Maen canolbwyntio ar amrywiaeth eang o sectorau dylunio, ac yn eich trochi ym maes dylunio a gweithgynhyrchu. Bob blwyddyn bydd lleoliadau gwaith project gyda phartneriaid diwydiannol yn eich herio ach datblygun greadigol ac yn broffesiynol, gan ganiatáu i chi gael profiad o amrywiol amgylcheddau gwaith, projectau a chwmnïau.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.