Course Overview - Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau (Welsh, Theatre and Media)
Agwedd arbennig ar y cwrs hwn yw’r cyfle i fynychu gweithdai arbenigol a fydd yn eich arfogi â’r sgiliau pwrpasol i greu gwaith gwreiddiol eich hunain, boed hynny’n yn sgript ar gyfer y teledu neu’r llwyfan, yn gynhyrchiad llwyfan, yn ffilm fer, neu’n rhaglen radio.
Mae’r dysgu drwy gyfrwng gweithdai, darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Maer asesiad yn gyfuniad o waith cwrs (e.e. gwaith ymarferol / creadigol, cyflwyniadau llafar, traethodau, a thasgau wythnosol) ac arholiadau, gyda rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs. Bydd eich modiwlau bob blwyddyn ...
Agwedd arbennig ar y cwrs hwn yw’r cyfle i fynychu gweithdai arbenigol a fydd yn eich arfogi â’r sgiliau pwrpasol i greu gwaith gwreiddiol eich hunain, boed hynny’n yn sgript ar gyfer y teledu neu’r llwyfan, yn gynhyrchiad llwyfan, yn ffilm fer, neu’n rhaglen radio.

Mae’r dysgu drwy gyfrwng gweithdai, darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Maer asesiad yn gyfuniad o waith cwrs (e.e. gwaith ymarferol / creadigol, cyflwyniadau llafar, traethodau, a thasgau wythnosol) ac arholiadau, gyda rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs. Bydd eich modiwlau bob blwyddyn yn gyfwerth ag 120 credyd.

Mae’r flwyddyn gyntaf yn gyfle i adeiladu ar eich profiadau ac i agor drysau newydd, e.e. trafod yr iaith a’i chelfyddyd mewn cyd-destunau sy’n ymwneud â’i hanes a’i chyflwr heddiw, dysgu sgiliau beirniadol newydd, ymateb yn wreiddiol i weithiau celfyddydol a meithrin sgiliau ymarferol ym maes theatr a’r cyfryngau.

Yn eich ail ach trydedd flwyddyn, cewch ddewis helaeth o fodiwlau damcaniaethol, megis ar y theatr Gymraeg o gyfnod Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams ac ar ddramâu teledu Meic Povey, yn ogystal â dewis eang o fodiwlau ymarferol megis sgriptio, dyfeisio cynhyrchiad llwyfan a chynhyrchu ffilm fer, i enwi ond rhai.

Yn y drydedd flwyddyn cewch lunio traethawd hir ac ymchwilio i bwnc diddorol o’ch dewis. Yn y gorffennol, mae nifer wedi dewis ymchwilio i feysydd megis gweithiau amrywiol ddramodwyr Cymraeg, hanes cwmnïau amatur Cymru ac addasiadau llwyfan a sgrin o weithiau llenyddol Cymraeg. Mae’r opsiynau’n ddiderfyn!

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.