Course Overview - Ffiseg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)
UCAS Code: 3D36
**TAR Uwchradd - Ffiseg (gyda SAC)**
Ydych chi’n angerddol am Ffiseg a byd sylweddau ac ynni, ac a allech chi drosglwyddor angerdd hwn i eraill. Gogledd Cymru yw’r lle perffaith i ddysgu i ysbrydoli eraill am Gemeg gyda phrifysgol sy’n cyfuno cefndir gwyddoniaeth ac addysg cryf ag angerdd am herio ein myfyrwyr a bod yn un o’r lleoedd mwyaf prydferth ac ysbrydoledig i fyw ynddo.
Os mai dysgu Ffiseg ywr yrfa i chi, yna Bangor ywr lle i chi. Gydan labordai addysgu newydd, staff angerddol, ac ysgolion partneriaeth gwych byddwch yn dysgur holl sgiliau ...
UCAS Code: 3D36
**TAR Uwchradd - Ffiseg (gyda SAC)**
Ydych chi’n angerddol am Ffiseg a byd sylweddau ac ynni, ac a allech chi drosglwyddor angerdd hwn i eraill. Gogledd Cymru yw’r lle perffaith i ddysgu i ysbrydoli eraill am Gemeg gyda phrifysgol sy’n cyfuno cefndir gwyddoniaeth ac addysg cryf ag angerdd am herio ein myfyrwyr a bod yn un o’r lleoedd mwyaf prydferth ac ysbrydoledig i fyw ynddo.

Os mai dysgu Ffiseg ywr yrfa i chi, yna Bangor ywr lle i chi. Gydan labordai addysgu newydd, staff angerddol, ac ysgolion partneriaeth gwych byddwch yn dysgur holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ysbrydoli eraill. Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro/athrawes Ffiseg rhagorol, ond hefyd yn athro/athrawes gwyddoniaeth, trwy roi cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Gwyddoniaeth. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar un o’r cwricwla newydd mwyaf cyffrous y byd ar hyn o bryd, y Cwricwlwm newydd i Gymru, ond bydd y sgiliau y byddwch yn eu hennill yn eich paratoi i addysgu yn unrhyw le.

**Pam astudio gyda ni?**
Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Ffiseg nag yma ym Mangor, gyda’n profiad gwyddoniaeth unigryw, ein profiad o ddysgu yn yr awyr agored a phrifysgol gyda choleg sy’n ganolfan flaenllaw yn y Deyrnas Unedig ar gyfer addysgu ac ymchwil mewn ystod eang o bynciau gwyddonol.

• Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoir sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.

• Cyfle i astudio tran ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg pun a ydych yn ddechreuwr llwyr neun ddefnyddiwr rhugl or iaith.

Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Maer TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml maen drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad ir proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.

**Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored**
Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â’n cysylltiadau â darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno’r pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Ffiseg (Cyfrwng Cymraeg) **3F5G**.