Course Overview - Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog)
Bydd y radd BA mewn Astudiaethau Addysg Gynradd yn sicrhau bod gennych chi ddealltwriaeth dda o faterion sylfaenol ym maes addysg mewn cyd-destunau ac amgylcheddau amrywiol. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar y sector cynradd yn benodol, a bydd yn sylfaen ddelfrydol i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes addysg gynradd. Hefyd, mae’r radd hon yn addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio ym meysydd ehangach addysg, iechyd a gwaith cymdeithasol.
Mae dau lwybr astudio ar gael:
D93T: BA (Hons) Primary Education Studies
W93T: BA (Anrh) Astudiaethau Addysg ...

W93T: BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog) / BA (Hons) Primary Education Studies (Bilingual)*

Bydd cyfleoedd rheolaidd ar gyfer profiad seiliedig ar waith mewn ysgolion yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn ymarfer presennol gan ddefnyddio’r technolegau a’r strategaethau dysgu diweddaraf. Mae amrywiaeth eang o ysgolion wedi’u lleoli yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, a byddant yn rhoi cyfle i chi weld ymarfer o’r radd flaenaf ym mhob un o feysydd y cyfnod cynradd.