Course Overview - Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus (Welsh, Media and Public Relations)
Mae’r BA Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn cyrraedd anghenion myfyrwyr a chyflogwyr yr unfed ganrif ar hugain.
Dewch i ddysgu am lenyddiaeth, iaith a diwylliant Cymru ac archwilio meysydd prysur y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus ar y cwrs gradd BA cydanrhydedd hwn. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth or traddodiad barddol canoloesol i geneuon protest modern. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, ieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac y...
Mae’r BA Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn cyrraedd anghenion myfyrwyr a chyflogwyr yr unfed ganrif ar hugain.

Dewch i ddysgu am lenyddiaeth, iaith a diwylliant Cymru ac archwilio meysydd prysur y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus ar y cwrs gradd BA cydanrhydedd hwn. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth or traddodiad barddol canoloesol i geneuon protest modern. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, ieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu am ddamcaniaethau allweddol ym meysydd y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus au heffaith ar ein cymdeithas ar ffordd rydym yn cyflawni busnes. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadaun effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Mae gwahanol fathau o fodiwlau y gelli di eu dilyn yn Abertawe. Mae gennym fodiwlau iaith, cyfryngau, llenyddiaeth, a bolisi a chyfraith iaith.

O ran y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, bydd y cwrs yn dy helpu i ddatblygu dealltwriaeth gref o ddamcaniaethau yn y meysydd hyn. Byddi di hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o ddatblygiadau cyfredol a newidiol a’r effaith y maent yn ei chael ar gymdeithas a’r byd busnes. Byddi’n cael dy ddysgu gan ddarlithwyr sy’n derbyn bri rhyngwladol am eu gwaith ymchwil ac sy’n arwain yn eu meysydd. Mae dau Brifardd ac enillwyr Llyfr y Flwyddyn ymhlith aelodau o staff Adran y Gymraeg. At hyn, mae ein campws dafliad carreg yn unig o’r traeth ac eto i gyd wedi ei leoli mewn dinas fywiog. Yn Abertawe, ceir y gorau o’r ddau fyd!
Bydd astudior cwrs hwn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogin fawr.
Dewch draw i’n Diwrnod Agored nesaf neu cysylltwch am ragor o wybodaeth.
https://www.swansea.ac.uk/cy/cymraeg/