Mae’r cwrs unigryw yma yn rhoi’r cyfle euraid i fyfyrwyr dreulio 9-12 mis yn y byd gwaith ac ennill profiadau a sgiliau amhrisiadwy. Mae’n gwrs pedair blynedd, gyda myfyrwyr yn treulio eu trydedd flwyddyn mewn swydd. Gall y lleoliad fod yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Beth yw dylanwad rhyngwladol y Gymraeg? Sut mae’r iaith yn gyfrwng diwylliant? Pa mor bwysig a pherthnasol yw creu cynnwys drwy gyfrwng iaith leiafrifol yn yr oes sydd ohoni? Dyma rai o gwestiynau mawrion BA Cymraeg (Iaith Gyntaf) Prifysgol Abertawe.
Dewch i ymgolli mewn llenyddiaeth a b...
Mae’r cwrs unigryw yma yn rhoi’r cyfle euraid i fyfyrwyr dreulio 9-12 mis yn y byd gwaith ac ennill profiadau a sgiliau amhrisiadwy. Mae’n gwrs pedair blynedd, gyda myfyrwyr yn treulio eu trydedd flwyddyn mewn swydd. Gall y lleoliad fod yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.

Beth yw dylanwad rhyngwladol y Gymraeg? Sut mae’r iaith yn gyfrwng diwylliant? Pa mor bwysig a pherthnasol yw creu cynnwys drwy gyfrwng iaith leiafrifol yn yr oes sydd ohoni? Dyma rai o gwestiynau mawrion BA Cymraeg (Iaith Gyntaf) Prifysgol Abertawe.

Dewch i ymgolli mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg, ochr yn ochr â dysgu am hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yr iaith.
Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth or traddodiad barddol canoloesol i ganeuon protest modern.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, sosioieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadaun effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan agor y drws at nifer fawr o yrfaoedd amrywiol.

**Pam Cymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf) yn Abertawe?**
Mae gradd BA Cymraeg o Brifysgol Abertawe yn bwrw golwg eang ar y Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, gan drafod polisiau iaith, llenyddiaeth y byd a chyfieithu.

Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio gan ymchwilwyr uchel eu parch yn eu meysydd arbenigol, gyda golwg ar sicrhau eich bod yn meithrin sgiliau trosglwyddiadawy fydd o ddefnydd i chi ym myd gwaith.

**Mae Astudiaethau Celtaidd yn Abertawe:**
• 2il yn y DU yn gyffredinol (Times Good University Guide 2025)

Eich Profiad Cymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf)
Mae pob cam o’n cwrs gradd BA Cymraeg (Iaith Gyntaf) wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn datblygu’n gyfathrebwyr hyderus ac yn ymchwilwyr craff.

Mae teilwra ein modiwlau a’n hasesiadau i’ch galluogi i feithrin y sgiliau proffesiynol y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn cydweithio gyda sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt er mwyn sicrhau bod ein cwrs gradd yn ateb y galw.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddulliau asesu sydd wedi’u cynllunio’n ofalus er mwyn eich galluogi i ennyn sgiliau bydd yn eich helpu chi i gyflawni eich nodau gyrfa neuch uchelgeisiau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Fel un o’n cymuned ddysgu, byddwch yn derbyn cymorth addysgol heb ei ail.
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
4 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Singleton Park Campus
Provider Details
Codes/info
Course Code
Q562
Institution Code
S93
Points of Entry
Year 1
H3,H3,H3,H3,H3,H3
GCSEs: English/Welsh Language Grade C
We recognise the EPQ as an excellent indicator of success. If you are predicted a Grade B or above in the EPQ, you will receive an offer with a one grade reduction, to include your EPQ with a grade B.
B + BB at A-Level. Applicants without an A Level in Welsh will be considered.
Swansea University accepts the Advanced Skills Baccalaureate Wales as fully equivalent to x1 A-Level.
Find more courses from Swansea University with our undergraduate course search.
14
Jun, 2025
Undergraduate Open Day
13
Sep, 2025
18
Oct, 2025
Undergraduate Open Day
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Unfortunately, we're unable to gather fee information for this course. Click here to find out more about Cymraeg gyda Blwyddyn mewn Gwaith (llwybr i fyfyrwyr iaith gyntaf) BA (Hons)'s funding options on the university's website.
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.