UCAS Code: 3D3V
**TAR Uwchradd - Cerddoriaeth (gyda SAC)**
Mae cerddoriaeth yn bwysig i bawb. Yn ifanc iawn, bydd rhai yn ymwneud yn ymarferol â cherddoriaeth – boed yn lleisiol, yn offerynnol, mewn band roc, côr neu gerddorfa; bydd eraill yn bodloni ar ymlacio dwy wrando ar gerddoriaeth o arddulliau amrywiol. Ydy, mae cerddoriaeth yn elfen annatod o fywyd, ac mae’n bwysig ein bod yn darparu sylfaen o wybodaeth a sgiliau cerddorol cadarn ar gyfer dysgwyr y dyfodol. Mae cwrs TAR Cerddoriaeth yn gyfle i chi ymwneud yn ymarferol â’ch pwnc, datblygu sgiliau addysgu a gwneud gwah...
UCAS Code: 3D3V
**TAR Uwchradd - Cerddoriaeth (gyda SAC)**
Mae cerddoriaeth yn bwysig i bawb. Yn ifanc iawn, bydd rhai yn ymwneud yn ymarferol â cherddoriaeth – boed yn lleisiol, yn offerynnol, mewn band roc, côr neu gerddorfa; bydd eraill yn bodloni ar ymlacio dwy wrando ar gerddoriaeth o arddulliau amrywiol. Ydy, mae cerddoriaeth yn elfen annatod o fywyd, ac mae’n bwysig ein bod yn darparu sylfaen o wybodaeth a sgiliau cerddorol cadarn ar gyfer dysgwyr y dyfodol. Mae cwrs TAR Cerddoriaeth yn gyfle i chi ymwneud yn ymarferol â’ch pwnc, datblygu sgiliau addysgu a gwneud gwahaniaeth.

Prif nod cwrs TAR Cerddoriaeth yw dirnad sut i ddysgu a chael profiad trwy Gerddoriaeth. Yn un o bynciau Y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, mae cyfle ymarferol a rhyngweithiol, drwy Gerddoriaeth, i archwilio, ymateb, ac i greu. Yn y darlithoedd bydd cyfle i astudio, trafod, a datblygu dealltwriaeth o sut i greu gweithgareddau deniadol, diddorol sy’n cyfuno Perfformio, Cyfansoddi a Gwerthuso. Drwy ddulliau ymarferol, bydd y cwrs yn ffocysu ar bedagogeg gerddorol a strategaethau addysgu effeithiol a fydd yn arwain at ddatblygu chwilfrydedd, creadigrwydd, meddwl beirniadol, hunan werth, hunan hyder a gwydnwch. Dyma gwrs a galwedigaeth sy’n caniatáu ichi fwynhau eich pwnc ac i ysbrydoli cerddorion y dyfodol, beth bynnag eu profiad a’u diddordeb cerddorol. Mae’n llwybr ichi ddatblygu’n broffesiynol, i gydweithio ag eraill yn ogystal â lledaenu eich arbenigedd personol.

**Pam astudio gyda ni?**

- Bydd tiwtor prifysgol profiadol ac empathetig yn eich arwain ac yn eich cefnogi, gan sicrhau bod gennych y sgilau, yr wybodaeth gyfredol a’r hyder i fod yn addysgwyr effeithiol

- Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau leoliad ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC)

- Byddwch yn meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliant cerddorol cyfoethog ac amrywiol Cymru yng nghyd-destun ymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol ehangach. Gellir astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn unol â’r gofyn

- Bydd cyfle ichi fwynhau harddwch Eryri a glannau arfordir Gogledd Cymru yn ystod eich astudiaethau ym Mangor. Bydd cyfle o gydweithio gydag adrannau eraill e.e. TAR Uwchradd Awyr Agored

Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf!

Maer TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad ir proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw

**Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.**
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd ân cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfunor pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am **3F5W**.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
1 Years
Start Date
09/2025
Campus
Main Site
Provider Details
Codes/info
Course Code
3D3V
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
23
Nov, 2024
Undergraduate Open Day
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.