UCAS Code: 3D38
**TAR Uwchradd - Cymraeg (gyda SAC)**
Mae bod yn athro/awes Cymraeg yn broffesiwn gwerth chweil. Dewch i rannu eich angerdd a’ch diddordeb yn yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth gyda’r to ifanc. Dewch i wneud y Gymraeg yn fyw a pherthnasol iddynt yn eu bywydau bob dydd a sicrhau fod Cymraeg pawb yn cyfri boed hwy’n siaradwyr Cymraeg rhugl neu yn siaradwyr ar dwf.
Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol mewn ysgolion yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o sut mae disgyblion yn dysgu. Bydd y cyfleoedd i ymchwilio, arsylwi athrawon fel modela...
UCAS Code: 3D38
**TAR Uwchradd - Cymraeg (gyda SAC)**
Mae bod yn athro/awes Cymraeg yn broffesiwn gwerth chweil. Dewch i rannu eich angerdd a’ch diddordeb yn yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth gyda’r to ifanc. Dewch i wneud y Gymraeg yn fyw a pherthnasol iddynt yn eu bywydau bob dydd a sicrhau fod Cymraeg pawb yn cyfri boed hwy’n siaradwyr Cymraeg rhugl neu yn siaradwyr ar dwf.
Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol mewn ysgolion yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o sut mae disgyblion yn dysgu. Bydd y cyfleoedd i ymchwilio, arsylwi athrawon fel modelau rôl a chyd drafod a chynllunio’n broffesiynol yn eich arfogi i arbrofi â’r sgiliau ar wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu fel athro/awes Cymraeg creadigol ac arloesol.

Yma, ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Cymraeg rhagorol, ond hefyd yn athro/awes Ieithoedd. Gwneir hyn trwy roi’r cyfleoedd i chi archwilio agweddau eraill o’r Cwricwlwm Ieithoedd, fel eich bod yn gwbl barod i gwrdd ag anghenion y Cwricwlwm i Gymru a chynorthwyo disgyblion i ddefnyddio a chymhwyso eu medrau llythrennedd Cymraeg ymhob pwnc a maes dysgu.

**Pam astudio gyda ni?**
• ‘Does unman gwell nag ardal y Brigfysgol ym Mangor i gael profiadau cyforiog o ddiwylliant a llenyddiaeth Gymraeg draddodiadol a chyfoes yn ddaearyddol, hanesyddol a chymdeithasol. Bydd y cwrs TAR Cymraeg yn rhoi cyfle i chi adnabod potensial yr ardal leol fel cyd-destun real wrth gyflwyno’r Gymraeg mewn cymdeithas ddwyieithog a chymuned amlieithog.
• Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoir sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Cydnebir gwaith ymchwil Prifysgol Bangor ym maes dwyieithrwydd ar lefel rhyngwaldol a byd-eang . Bydd modd i chi elwa ar hyn i ddatblygu gwybodaeth yn y maes ac wrth arbrofi ar lawr-dosabrth.
• Mae ein hysgolion Arweiniol a Rhwydwaith ar draws rhanbarth y Gogledd yn cynrychioli gwahanol ardaloedd a gwahanol fathau o ddisgyblion o ran eu cefndiroedd Cymraeg. Bydd derbyn profiadau addysgu’r Gymraeg mewn dau leoliad gwahanol gyda mentoriaid hyfforddedig yn fodd i chi ddod i ddeall ffyrdd addysgu gwahanol er mwyn hybu a datblygu sgiliau Cymraeg disgyblion ag iddynt broffiliau iaith amrywiol. Dyma ddulliau trosglwyddadwy fydd yn eich paratoi, maes o law, at addysgu ar draws Cymru.
• Cewch gyfle i gefnogi cyfoedion mewn dosbarthiadau iaith a derbyn cefnogaeth broffesiynol a phersonol wrth ddechrau’ch taith fel athrawon ac arweinwyr y Gymraeg y dyfodol mewn ysgolion.
• Drwy’r cwrs ym Mangor cewch eich hannog i chwilio am bob cyfle i roi profiadau byw a chyfoes i ddisgyblion fwynhau defnyddio’r Gymraeg bob dydd mewn gweithgareddau allgyrsiol. Ymunwch gyda’r cwrs! Dewch i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a dod yn rhan greiddiol o’r ymgyrch i greu miliwn o siaradwyr. Awydd? Amdani!

**Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.**
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd ân cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfunor pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am **3F5J**.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
1 Years
Start Date
09/2025
Campus
Main Site
Provider Details
Codes/info
Course Code
3D38
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
23
Nov, 2024
Undergraduate Open Day
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.