Dyma gwrs sy’n ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol o ddydd i ddydd. A hoffech weithio mewn meysydd fel y diwydiannau creadigol a’r sector treftadaeth, darlledu a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cyfieithu, cynlluni...
Dyma gwrs sy’n ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol o ddydd i ddydd. A hoffech weithio mewn meysydd fel y diwydiannau creadigol a’r sector treftadaeth, darlledu a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cyfieithu, cynllunio ieithyddol a gweinyddu cyhoeddus? Bydd y cwrs hwn yn fan cychwyn ardderchog i chi anelu at yrfa yn un o’r meysydd hyn.

Iaith fyw y presennol ywr Gymraeg ym Mangor. Ar y cwrs hwn cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith i ddibenion proffesiynol a galwedigaethol. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?

Derbynnir myfyrwyr o gefndiroedd iaith gyntaf ac ail iaith i ddilyn y cwrs hwn. Mae’n ddilyniant naturiol hefyd i fyfyrwyr a ddilynodd y flwyddyn sylfaen Cymraeg i Ddechreuwyr. Mae’n addas yn ogystal i rai a gyrhaeddodd lefel hyfedredd mewn Cymraeg, e.e. drwy Gyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site
Provider Details
Codes/info
Course Code
Q563
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
UCAS Tariff104 128 Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall mewn Cymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). Scottish HigherIsafswm o 5 Scottish Highers - efallai y bydd angen rhai graddau pwnc-benodol/Efallai y bydd angen Advanced Highers. Minimum of 5 Scottish Highers - some subject specific grades/Advanced Highers may be required. Access to HE DiplomaCwrs mynediad gydag elfen o Gymraeg. Pasio yn ofynnol. Access course with Welsh elements. Pass required. International Baccalaureate Diploma ProgrammePasio yn ofynnol. Gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg. Pass required. Including grade H5 in Welsh. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DMM DDM Byddwn hefyd yn ystyried cymwysterau BTEC eraill ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will also consider other BTEC qualifications in conjunction with other level 3 qualifications. OCR Cambridge Technical Extended DiplomaExtended ProjectGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Points can include a relevant Extended Project (EPQ) but must include a minimum 2 full A-levels, or equivalent. Please contact us for more information. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will accept this qualification in conjunction with other level 3 qualifications. A levelGan gynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Celfyddydau neu Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Ffrangeg, Almaeneg, Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol. Including a grade B in Welsh (or a grade B in an Arts or Humanities subject studied through the medium of Welsh - e.g. French, German, History, Geography, Religious Studies). General Studies and Key Skills not normally accepted. T LevelDerbynnir cymwysterau Lefel T fesul achos. T Level qualifications are accepted on a case-by -case basis. |
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
23
Nov, 2024
Undergraduate Open Day
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Region | Costs | Academic Year | Year | |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.