Mae cysylltiad clos rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. O gyfunor ddau bwnc cewch eich arfogi â gwybodaeth o iaith, llenyddiaeth a sgiliau cerddorol syn briodol i amrywiaeth dda o yrfaoedd gan gynnwys y sectorau celfyddydol a threftadol ac addysg a darlledu. Mae cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau eraill y myfyrwyr a bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddarlithio. Mae Cymraeg ym Mangor hefyd yn llawer mwy na chwrs gradd. Maen becyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broff...
Mae cysylltiad clos rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. O gyfunor ddau bwnc cewch eich arfogi â gwybodaeth o iaith, llenyddiaeth a sgiliau cerddorol syn briodol i amrywiaeth dda o yrfaoedd gan gynnwys y sectorau celfyddydol a threftadol ac addysg a darlledu. Mae cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau eraill y myfyrwyr a bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddarlithio. Mae Cymraeg ym Mangor hefyd yn llawer mwy na chwrs gradd. Maen becyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broffesiynol a boddhaus wrth greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.

Dyma gwrs sy’n caniatáu i chi fwynhau holl gyfoeth llenyddiaeth, drama a diwylliant creadigol y Gymraeg ochr yn ochr â holl gyfoeth y byd cerddorol yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n gyfuniad deinamig o’r creadigol, yr ymarferol a’r academaidd a hynny mewn dau faes sydd â chysylltiad clos a chyffrous âi gilydd. Gall myfyrwyr sy’n mwynhau gweithgarwch creadigol ddilyn gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith yn y Gymraeg, ac ar yr un pryd ddilyn modiwlau cyfansoddi cerddoriaeth. Mae hwn yn llawer mwy na chwrs gradd: maen cynnig pecyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan greadigol yn niwylliant cyfoes Cymru.

Cofiwch hefyd fod cymuned ddiwylliannol ddeinamig Prifysgol Bangor yn rhoi cyfle i chi ymuno mewn corau, bandiau a cherddorfeydd, yn ogystal â pherfformio mewn eisteddfodau a gwyliau diwylliannol. Mae gan Brifysgol Bangor ddwy neuadd gyngerdd, pedair stiwdio electroacwstig, ac mae Canolfan Pontio yn cynnal digwyddiadau lu ym meysydd drama, llenyddiaeth, ffilm a cherddoriaeth.

O gyfuno Cymraeg a Cherddoriaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau cerddorol syn briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sgiliau dadansoddol newydd er mwyn ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth a cherddoriaeth, ac fe welwch hefyd berthnasedd y traddodiad Cymraeg i rai o ffurfiau diwylliannol pwysicaf y byd, gan ystyried sut mae llenorion a cherddorion wedi ymateb i ofynion yr oesoedd.

Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennun hyderus ac yn effeithiol yn y Gymraeg, i gyfieithu a sgriptio; ac o berfformio, cyfansoddi a defnyddio cerddoriaeth yn y gymuned, i ddysgu sgiliau oesol harmoni a gwrthbwynt.

Mae amrywiaeth a chyfoeth y cwrs gradd hwn yn eithriadol o werthfawr, ac maer ddau bwnc yn gwir gyfoethogi ei gilydd.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu Music (with Foundation Year) W30F.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site
Provider Details
Codes/info
Course Code
QW53
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
UCAS Tariff104 128 Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth. Mae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig. Cerdd: Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth. Cymraeg: Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall mewn Cymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). All Music courses: the ability to read staff notation is required. Points from grade examinations are taken into consideration where appropriate, although are not normally included in the offer. Music: Level 3 qualifications can also be considered in conjunction with a grade B in A level Music, merit in the ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool Grade 5 Theory/Grade 7 Practical, or IB Higher in Music. Welsh: Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). Scottish HigherIsafswm o 5 Scottish Highers - efallai y bydd angen rhai graddau pwnc-benodol/Efallai y bydd angen Advanced Highers. Minimum of 5 Scottish Highers - some subject specific grades/Advanced Highers may be required. Access to HE DiplomaCwrs mynediad gydag elfen o Gymraeg. Pasio yn ofynnol. Access course with Welsh elements. Pass required. International Baccalaureate Diploma ProgrammePasio yn ofynnol. Gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg a gradd H5 mewn Cerdd. Pass required. Including grade H5 in Music and grade H5 in Welsh. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DMM DDM Gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant. (Byddwn hefyd yn ystyried cymwysterau BTEC eraill ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill.) Including a unit demonstrating the ability to read staff notation. (We will also consider other BTEC qualifications in conjunction with other level 3 qualifications.) OCR Cambridge Technical Extended DiplomaExtended ProjectGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Points can include a relevant Extended Project (EPQ) but must include a minimum 2 full A-levels, or equivalent. Please contact us for more information. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will accept this qualification in conjunction with other level 3 qualifications. A levelGan gynnwys: gradd B mewn Cerdd; gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Celfyddydau neu Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Ffrangeg, Almaeneg, Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol Including: grade B in Music; and, grade B in Welsh (or a grade B in an Arts or Humanities subject studied through the medium of Welsh - e.g. French, German, History, Geography, Religious Studies). T LevelDerbynnir cymwysterau Lefel T fesul achos. T Level qualifications are accepted on a case-by -case basis. |
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
23
Nov, 2024
Undergraduate Open Day
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Region | Costs | Academic Year | Year | |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.