Course Overview - Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) BA (Hons)
Rydym yn cynnig rhaglen radd BA (Anrh) arloesol mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol syn cynnig ystod amrywiol o fodiwlau ymarfer a theori perthnasol.
Mae dau lwybr astudio ar gael:
•BA (Hons) Early Years Professional Practice (with Early Years Practitioner Status)
•BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog)*
Yn y rhaglenni hyn, byddwch yn ennill statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar cymwys (SYBC), gan ennill profiad ymarferol yn y gwaith wedii gyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol a pholisi yn ogystal âr sgilia...
Rydym yn cynnig rhaglen radd BA (Anrh) arloesol mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol syn cynnig ystod amrywiol o fodiwlau ymarfer a theori perthnasol.

Mae dau lwybr astudio ar gael:
•BA (Hons) Early Years Professional Practice (with Early Years Practitioner Status)
•BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog)*

Yn y rhaglenni hyn, byddwch yn ennill statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar cymwys (SYBC), gan ennill profiad ymarferol yn y gwaith wedii gyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol a pholisi yn ogystal âr sgiliau trosglwyddadwy syn ofynnol ar gyfer ymarfer Blynyddoedd Cynnar effeithiol, gan gynnwys rheoli lleoliadau Blynyddoedd Cynnar. Datblygwyd y rhaglen mewn ymateb uniongyrchol i newidiadau yn y ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru ar DU er mwyn darparu arbenigwyr plentyndod cynnar cymwys syn gweithio gyda phlant ifanc au teuluoedd.

Agwedd sylfaenol ar y radd ywr 700 awr o brofiad wedii asesu syn seiliedig ar ymarfer y byddwch chin ei gwblhau er mwyn ennill SYBC. Mae hwn yn cynnwys lleoliad wythnosol yn ystod pob blwyddyn och astudiaeth, mewn ystod o leoliadau perthnasol fel ystafelloedd dosbarth Blynyddoedd Cynnar/Cyfnod Sylfaen, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant integredig a chyfleusterau gofal dydd. Fel rhan och gradd byddwch hefyd yn treulio amser yn ein darpariaeth Ysgol Goedwig ar y campws, lle byddwch yn cael profiad uniongyrchol or dull deinamig hwn o addysg gynnar. Yn ogystal, byddwch hefyd yn cael cyfle i dreulio amser yn ein hystafell MiniMets a ddatblygwyd er mwyn galluogi i brofi rhagoriaeth yn ymarferol trwy sesiynau ymarferol.

Trwy ennill gradd sydd ar flaen y gad o ran newidiadau yn y sector, bydd eich cymhwyster yn cael ei werthfawrogin fawr gan ddarpar gyflogwyr yn y maes hwn. Maer radd hon hefyd yn rhoi sylfeini cadarn ar gyfer ystod o yrfaoedd cysylltiedig, fel gwaith cymorth i deuluoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith cymunedol.

*Maer radd ddwyieithog yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o addysg gynnar mewn cyd-destun dwyieithog. Er bod peth or rhaglen yn cael ei darparu trwy gyfrwng y Saesneg, maer rhan fwyaf or cwrs dwyieithog ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cefnogaeth tiwtor personol syn siarad Cymraeg a lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Gellir cyflwyno asesiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg a gellir teilwrar cynnwys Cymraeg i wedduch gallu ieithyddol Maer cwrs wedii gynllunio i ateb y galw cynyddol am raddedigion sydd â galluoedd a chymwysterau dwyieithog.

Er mwyn graddio gydar radd ddwyieithog, rhaid i fyfyrwyr astudio o leiaf 80 credyd ym mhob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd myfyrwyr syn dilyn y llwybr hwn hefyd yn gymwys i gael ysgoloriaeth Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd werth hyd at £3000 dros y tair blynedd.

* Sylwer: Bydd y rhaglen hon yn destun adolygiad yn ystod ym mis Rhagfyr 2019. Or herwydd, gall cynnwys y cwrs a ddangosir isod newid er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol. Bydd unrhyw ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau wedi iddynt gael eu cadarnhau.