Mae’n bosibl astudior cwrs hwn ar gampws SA1 Abertawe neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, yn ddibynnol ar ba leoliad sy’n well gan y myfyriwr.
Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen radd lawn amser dros dair blynedd sy’n cynnwys darlithoedd a phrofiad o leoliadau ymarferol. Mae’r rhaglen Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar hon wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Yn rhan o’r rhaglen hon bydd myfyrwyr yn mynd ar leo...
Mae’n bosibl astudior cwrs hwn ar gampws SA1 Abertawe neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, yn ddibynnol ar ba leoliad sy’n well gan y myfyriwr.

Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen radd lawn amser dros dair blynedd sy’n cynnwys darlithoedd a phrofiad o leoliadau ymarferol. Mae’r rhaglen Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar hon wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Yn rhan o’r rhaglen hon bydd myfyrwyr yn mynd ar leoliad mewn amrywiaeth o sefydliadau blynyddoedd cynnar i gael y profiad galwedigaethol angenrheidiol i ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Lluniwyd yr amserlen i gefnogi myfyrwyr i gael digon o amser i gwblhau profiad lleoliadau a’r dysgu yn y Brifysgol. Gallai lleoliadau priodol gynnwys meithrinfeydd a gynhelir a rhai nas cynhelir, crèche, cylchoedd meithrin, dosbarthiadau yn y Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion cynradd a Chanolfannau Dechrau’n Deg. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn cael gradd yn ogystal â thrwydded i ymarfer o fewn ystod o sefydliadau blynyddoedd cynnar.
Bydd myfyrwyr yn dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc, gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau â damcaniaethau’n ymwneud â datblygiad cyfannol. Bydd y gweithgareddau dysgu’n cynnwys trafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol. Mae pwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer o fewn y blynyddoedd cynnar.
Bydd siaradwyr gwadd yn darparu cyfleoedd i glywed gan arbenigwyr sy’n arwain y sector ac yn cadw myfyrwyr yn gyfredol â pholisi a datblygiadau diweddar o fewn y sector blynyddoedd cynnar.
Hefyd mae ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
SA1 Waterfront Campus, Swansea
Provider Details
Codes/info
Course Code
YBC1
Institution Code
T80
Points of Entry
Year 1
UCAS Tariff |
Find more courses from University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) with our undergraduate course search.
23
Nov, 2024
27
Nov, 2024
Undergraduate Open Day
Carmarthen Open Day
30
Nov, 2024
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Region | Costs | Academic Year | Year | |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 | |
EU, International | £13,500 | 2024/25 | Year 1 |
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.