UCAS Code: 3D3G
**TAR Uwchradd - Celf (gyda SAC)**
Does dim rhaid i chi fod yn Artist i fod yn Athro Celf – maer pwyslais ar ysbrydoli eraill i weld yr annisgwyl a’r gallu i godi cwestiynau caeëdig ar weithiau Celf! O fewn ein rhaglen Celf TAR Uwchradd fe ganolbwyntir ar ddatblygu Athrawon Celf chwilfrydig a mentrus. Byddwch yn ymroi i ddarlithoedd, seminarau a phrofiad arsylwi ac addysgu lle y byddwch wedi meddu ar sgiliau cyfoethog ar sut i gydweithio, arwain, ymateb a pharatoi gwersi heriol fel athro Celf creadigol ac arloesol.
Yma ym Mangor byddwn yn sicrhau bod gen...
UCAS Code: 3D3G
**TAR Uwchradd - Celf (gyda SAC)**
Does dim rhaid i chi fod yn Artist i fod yn Athro Celf – maer pwyslais ar ysbrydoli eraill i weld yr annisgwyl a’r gallu i godi cwestiynau caeëdig ar weithiau Celf! O fewn ein rhaglen Celf TAR Uwchradd fe ganolbwyntir ar ddatblygu Athrawon Celf chwilfrydig a mentrus. Byddwch yn ymroi i ddarlithoedd, seminarau a phrofiad arsylwi ac addysgu lle y byddwch wedi meddu ar sgiliau cyfoethog ar sut i gydweithio, arwain, ymateb a pharatoi gwersi heriol fel athro Celf creadigol ac arloesol.
Yma ym Mangor byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Celf rhagorol, ond hefyd yn athro’r Celfyddydau Mynegiannol, trwy roi’r cyfleoedd i chi archwilio agweddau o’r Cwricwlwm i Gymru a’r Medrau fel eich bod yn rhoi ffocws cadran wrth gynllunio gwersi cyffrous a chyfoethog.

**Pam Astudio gyda Ni?**
· Does unlle gwell i astudio eich cymhwyster TAR Celf nag yma ym Mangor, lle mae posibl astudio’n ddwyieithog, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – yn sicr, gall hyn agor drysau ar gyfer swyddi dros Gymru ac ymhellach. Heb amheuaeth, mae gennym naws gartrefol sy’n meithrin myfyrwyr Celf hapus, diymhongar a hyderus. Bydd gennych fynediad at adnoddau cyfoethog megis orielau ac amgueddfeydd Celf lleol ac atyniadau o harddwch naturiol yn Ngogledd Cymru ich ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg.
· Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn trosglwyddor sgiliau sydd eu hangen i ddod yn addysgwyr effeithiol ar gyfer y dyfodol. Cewch brofiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich cynnydd a chyflawniad tuag at Statws Athro Cymwysedig.
· Bydd cyfle i astudio meysydd penodol o ran rheoli ymddygiad yn gadarnhaol; gwahaniaethu strategol; dadansoddi theoriau damcaniaethwyr a chynllunio ar gyfer amgylchedd dysgu diogel a chyfforddus.
• Byddwn yn herio ac yn ysgogi drwy rol fodelu o ran datblygu’r medrau o fewn gwersi er mwyn sicrhau ffocws ar gywirdeb a phatrymau iaith cyfoethog gyda hyn fe roddir ystyriaeth gref ar strategaethau asesu i gydymffurfio ag Amser Gwella a Myfyrio (AMG).
• Mae lles, gofal, cymorth ac arweiniad yn flaenriaeth gennym er mwyn i bob myfyriwr deimlo’n hapus a diogel, a thrwy hynny arddangos agweddau cadarnhaol at ddysgu.
Maer TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml maen drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad ir proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw

**Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.**
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd ân cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfunor pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am **3F5L**.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
1 Years
Start Date
09/2025
Campus
Main Site
Provider Details
Codes/info
Course Code
3D3G
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
23
Nov, 2024
Undergraduate Open Day
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.