Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg BA (Hons)
Course Overview - Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg BA (Hons)
Mae’r radd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg yn mynd i’r afael â’r galw cynyddol am raddedigion Cymraeg eu hiaith sydd â’r wybodaeth am ddiwylliant Cymru a’r arbenigedd proffesiynol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol ac yn empathetig â phobl ifanc a’u teuluoedd mewn gwahanol gyd-destunau.
Mae’n radd ar y cyd sy’n cyfuno dysgu am iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru ag archwilio i’r sbectrwm llawn o brofiadau plentyndod ac ieuenctid, o’r cenhedlu i’r trawsnewid i fod yn oedolyn. Mae hyn yn cynnwys llencyndod, hawliau plant, datblygiad, dysgu, chwarae, huna...
Mae’r radd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg yn mynd i’r afael â’r galw cynyddol am raddedigion Cymraeg eu hiaith sydd â’r wybodaeth am ddiwylliant Cymru a’r arbenigedd proffesiynol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol ac yn empathetig â phobl ifanc a’u teuluoedd mewn gwahanol gyd-destunau.

Mae’n radd ar y cyd sy’n cyfuno dysgu am iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru ag archwilio i’r sbectrwm llawn o brofiadau plentyndod ac ieuenctid, o’r cenhedlu i’r trawsnewid i fod yn oedolyn. Mae hyn yn cynnwys llencyndod, hawliau plant, datblygiad, dysgu, chwarae, hunaniaeth, diogelu, iechyd meddwl ac amrywiaeth. Byddwch yn archwilio ac yn trafod hanes, llenyddiaeth, a diwylliant Cymru gan wella eich hyfedredd ieithyddol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Ym Mhrifysgol Bangor, mae astudiaethau academaidd o iaith a llenyddiaeth Gymraeg yn eang ac amrywiol. Gallwch astudio a mwynhau amrywiaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg, archwilio gwleidyddiaeth Cymru a gwahanol gyfnodau o hanes er enghraifft. Wrth astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, byddwch yn dod i gysylltiad â’r myrdd o faterion cyfoes sy’n effeithio ar blentyndod ac ieuenctid, a chymhlethdodau bywyd modern yn erbyn cefndir newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, addysgol a gwleidyddol byd-eang.

Mae’r radd cyfrwng Cymraeg hon yn ddelfrydol ar gyfer siaradwyr Cymraeg a’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa yng Nghymru. Byddwch yn gallu dysgu sgiliau damcaniaethol ac ymarferol wrth gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac anawsterau cyfathrebu trwy fanteisio ar gyfleoedd i ddysgu technegau cefnogi cyfathrebu.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Course Information
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
21/09/2026
Campus
Main Site
Application Details
Provider Details
Codes/info
Course Code
X321
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
Entry Requirements
UCAS Tariff
96
120
Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher).
Scottish Higher
Isafswm o 5 Scottish Highers - efallai y bydd angen rhai graddau pwnc-benodol/Efallai y bydd angen Advanced Highers. Minimum of 5 Scottish Highers - some subject specific grades/Advanced Highers may be required.
Access to HE Diploma
Cwrs mynediad gydag elfen o Gymraeg. (Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Lefel A a Fagloriaeth Ryngwladol Uwch.) Access course with Welsh elements. (Can be considered in conjunction with another qualification in Welsh or studies through the medium of Welsh - e.g. A Level, IB Higher.)
International Baccalaureate Diploma Programme
Gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg. (Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Lefel A a Fagloriaeth Ryngwladol Uwch.) Including a grade H5 in Welsh. (Can be considered in conjunction with another qualification in Welsh or studies through the medium of Welsh - e.g. A Level, IB Higher.)
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
MMM
DDM
Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A a Fagloriaeth Ryngwladol Uwch). Can be considered in conjunction with another qualification in Welsh or studies through the medium of Welsh (e.g. A Level, IB Higher)
OCR Cambridge Technical Extended Diploma
A level
Gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Celfyddydau neu Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Ffrangeg, Almaeneg, Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol. Including a grade B in Welsh (or a grade B in an Arts or Humanities subject studied through the medium of Welsh - e.g. French, German, History, Geography, Religious Studies). General Studies and Key Skills not accepted.
T Level
Derbynnir cymwysterau Lefel T fesul achos. T Level qualifications are accepted on a case by case basis.
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (last awarded Summer 2024)
Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will accept this qualification in conjunction with other level 3 qualifications.
Search Undergraduate Courses at Bangor University
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
Upcoming Open Days at Bangor University
22
Nov, 2025

Bangor University22 Nov 2025
Undergraduate Open Day
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Fees and funding
| Region | Costs | Academic Year | Year | |

| England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,535 | 2025/26 | Year 1 |
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.