Bydd y radd hon mewn Astudiaethau Addysg Gynradd ym Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys addysgu. Drwy ganolbwyntio ar y sector cynradd, byddwch yn astudio systemau, prosesau a dulliau addysgol ac yn dysgu sut mae amgylchiadau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol yn effeithio ar brofiadau ym maes addysg. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau drwy ddefnyddio gwahanol fathau o dechnoleg, gan ddysgu sut iw defnyddion effeithiol yn eich astudiaethau ac mewn cyd-destunau gwaith.
Byddwch yn ymgymryd â dau leoliad gwaith lle byddwch ...
Bydd y radd hon mewn Astudiaethau Addysg Gynradd ym Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys addysgu. Drwy ganolbwyntio ar y sector cynradd, byddwch yn astudio systemau, prosesau a dulliau addysgol ac yn dysgu sut mae amgylchiadau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol yn effeithio ar brofiadau ym maes addysg. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau drwy ddefnyddio gwahanol fathau o dechnoleg, gan ddysgu sut iw defnyddion effeithiol yn eich astudiaethau ac mewn cyd-destunau gwaith.

Byddwch yn ymgymryd â dau leoliad gwaith lle byddwch chi’n cael cipolwg ymarferol ar yrfaoedd o fewn ac y tu allan i addysg gynradd, gan eich cyflwyno i swyddi ym maes AAA, dysgu awyr agored, addysg gymunedol ac addysg amgen, addysg a gofal blynyddoedd cynnar, a swyddi yn y trydydd sector. Maer radd hon yn cynnwys cyfleoedd i gael profiadau o fod ar leoliad ar y campws, gan ddefnyddio mannau arbenigol Met Caerdydd, Tŷ Froebel ar Ganolfan Ddysgu Awyr Agored; ac mae lleoliad rhithwir yn darparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith gydag ysgolion a sefydliadau rhyngwladol.

Mae gan dîm y cwrs gysylltiadau cryf ag ystod eang o ysgolion, lleoliadau a sefydliadau a thrwy hynny mae cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol ochr yn ochr âch astudiaethau yn cael eu creu. Maer rhain yn digwydd ar y campws ac o fewn y gymuned ehangach ac yn cynnwys teithiau maes, gweithgareddau codi arian a chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau. Maer rhain yn cyfoethogi eich profiad prifysgol, gan eich galluogi i ddyfnhau eich ymdeimlad o berthyn i gymuned Astudiaethau Addysg Gynradd (PES) tra hefyd yn datblygu sgiliau newydd a gwella eich proffil proffesiynol.

Mae gan fodiwlau bwyslais cryf ar gymhwyso theori i ymarfer, gyda phrofiadau addysgu a dysgu wediu gwreiddio yn y byd go iawn, sy’n eich cefnogi tuag at ddod yn fyfyriwr graddedig creadigol, addasadwy a gwybodus, sydd â sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n gallu cymhwysor wybodaeth, y sgiliau ar profiadau a gafwyd och gradd fel sail ar gyfer astudiaeth bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth/hunangyflogaeth yn y dyfodol.

Mae dau lwybr astudio ar gael:

- BA (Hons) Primary Education Studies

- BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog)

1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Cardiff Met - Cyncoed
Provider Details
Codes/info
Course Code
W93T
Institution Code
C20
Points of Entry
Year 1
104
MMM
MMM
Advanced Skills Challenge Certificate considered as the third A level
Welsh Advanced Skills Baccalaureate considered as the third subject
Find more courses from Cardiff Metropolitan University with our undergraduate course search.
While there's currently no scheduled events, head over to the university's website to find out how to stay up to date with their open days and more.
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Region | Costs | Academic Year | Year | |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales | £9,535 | 2025/26 | Year 1 | |
EU, International | £16,000 | 2025/26 | Year 1 |
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.