UCAS Code: 3D3Y
**TAR Uwchradd - Addysg Gorfforol (gyda SAC)**
Ysbrydolwch genedlaethau o blant a phobl ifanc i fyw bywyd iach a heini trwy gydol eu hoes ac i danio angerdd am chwaraeon a gweithgaredd corfforol trwy ddilyn ein rhaglen TAR Uwchradd Addysg Gorfforol. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu ac yn darparur sgiliau ar wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu fel athro Addysg Gorfforol, creadigol ac arloesol.
Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinwedd...
UCAS Code: 3D3Y
**TAR Uwchradd - Addysg Gorfforol (gyda SAC)**

Ysbrydolwch genedlaethau o blant a phobl ifanc i fyw bywyd iach a heini trwy gydol eu hoes ac i danio angerdd am chwaraeon a gweithgaredd corfforol trwy ddilyn ein rhaglen TAR Uwchradd Addysg Gorfforol. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu ac yn darparur sgiliau ar wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu fel athro Addysg Gorfforol, creadigol ac arloesol.

Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Addysg Gorfforol rhagorol, ond hefyd yn athro Iechyd a Lles, trwy roi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill o’r cwricwlwm Iechyd a Lles, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru.

**Pam astudio gyda ni?**
- Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Addysg Gorfforol nag yma ym Mangor, syn falch oi hanes llwyddiannus a thraddodiad o ddarparu addysg athrawon Addysg Gorfforol. Bydd gennych fynediad nid yn unig i amrywiaeth eang o chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chyfleoedd mewn addysg, ond hefyd i weithgareddau awyr agored ac antur rhagorol. Mae’r agwedd hon yn unigryw i Fangor, lle rydym nid yn unig yn darparu cyfleoedd dysgu allgyrsiol rhagorol yma yng Ngogledd Cymru, ond hefyd ymhellach i ffwrdd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd gennych fynediad at adnoddau a chyfleusterau chwaraeon a gweithgareddauau corfforol o’r radd flaenaf, yn ogystal â’r adnoddau o fewn ardal naturiol hardd sydd gennym ym Mangor – mynyddoedd, llynnoedd, afonydd a thraethau. Bydd hyn i gyd yn eich ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg.

- Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparur sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC).

- Cewch gyfle i astudio tran ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cewch hefyd gefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg pun a ydych yn ddechreuwr llwyr neun ddefnyddiwr rhugl or iaith.

Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Maer TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad ir proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
1 Years
Start Date
09/2025
Campus
Main Site
29 January
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
3D3Y
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
Take the next steps at Bangor University with our postgraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,535 | 2025/26 | Year 1 |