Addysg Grefyddol gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Course Overview - Addysg Grefyddol gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) Postgraduate Certificate in Education - PGCE
UCAS Code: 3F5T
TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol gyda GAA (gyda SAC)
Rydym yn byw mewn cymdeithas mor amrywiol sy'n cynnwys llawer o grefyddau, llawer o athroniaethau a llawer o systemau moesegol. O’r herwydd, mae’n allweddol ein bod yn datblygu gwybodaeth am y gwahanol feysydd hyn ymhlith cenedlaethau ifanc. Mae’r rhaglen TAR Astudiaethau Crefyddol wedi’i strwythuro i hyrwyddo’r nod hwn ac mae’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol i ddod yn athrawon effeithiol, arloesol a gwybodus.
Bydd y cwrs TAR ym Mangor yn sicrhau eich bod yn da...
UCAS Code: 3F5T
TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol gyda GAA (gyda SAC)
Rydym yn byw mewn cymdeithas mor amrywiol sy'n cynnwys llawer o grefyddau, llawer o athroniaethau a llawer o systemau moesegol. O’r herwydd, mae’n allweddol ein bod yn datblygu gwybodaeth am y gwahanol feysydd hyn ymhlith cenedlaethau ifanc. Mae’r rhaglen TAR Astudiaethau Crefyddol wedi’i strwythuro i hyrwyddo’r nod hwn ac mae’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol i ddod yn athrawon effeithiol, arloesol a gwybodus.
Bydd y cwrs TAR ym Mangor yn sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau a nodweddion allweddol i ddod yn athrawon Astudiaethau Crefyddol o'r radd flaenaf. Yn ogystal â datblygu’r galluoedd craidd i fod yn athrawon Astudiaethau Crefyddol rhagorol, byddwch hefyd yn datblygu llawer o sgiliau a fydd yn berthnasol ar gyfer rôl athrawon Dyniaethau, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Dyniaethau, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Pam astudio gyda ni?
• Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o addysgu cenedlaethau o bobl sy'n ymddiddori mewn crefydd, athroniaeth a moeseg ac, o'r herwydd, mae ganddi lawer o adnoddau, deunyddiau ac arbenigeddau i ddatblygu ymarferwyr addysgu o'r safon uchaf.
• Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.
• Cyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith.
Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai'r rhai sy'n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
Course Information
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
1 Years
Start Date
2027-09-01
Campus
Main Site
Application Details
Varied
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
Unknown
Institution Code
B06
Points of Entry
Unknown
Search Postgraduate Courses at Bangor University
Take the next steps at Bangor University with our postgraduate course search.
Fees and funding
| Region | Costs | Academic Year | Year |
|---|---|---|---|
| England, Scotland, Northern Ireland, Wales, Republic of Ireland, Channel Islands | £9,790 | 2026/27 | Year 1 |
































