Celf - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Course Overview - Celf - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) Postgraduate Certificate in Education - PGCE
UCAS Code: 3D3G
TAR Uwchradd - Celf (gyda SAC)
Does dim rhaid i chi fod yn Artist i fod yn Athro Celf – mae'r pwyslais ar ysbrydoli eraill i weld yr annisgwyl a’r gallu i godi cwestiynau caeëdig ar weithiau Celf! O fewn ein rhaglen Celf TAR Uwchradd fe ganolbwyntir ar ddatblygu Athrawon Celf chwilfrydig a mentrus. Byddwch yn ymroi i ddarlithoedd, seminarau a phrofiad arsylwi ac addysgu lle y byddwch wedi meddu ar sgiliau cyfoethog ar sut i gydweithio, arwain, ymateb a pharatoi gwersi heriol fel athro Celf creadigol ac arloesol.
Yma ym Mangor byddwn yn s...
UCAS Code: 3D3G
TAR Uwchradd - Celf (gyda SAC)
Does dim rhaid i chi fod yn Artist i fod yn Athro Celf – mae'r pwyslais ar ysbrydoli eraill i weld yr annisgwyl a’r gallu i godi cwestiynau caeëdig ar weithiau Celf! O fewn ein rhaglen Celf TAR Uwchradd fe ganolbwyntir ar ddatblygu Athrawon Celf chwilfrydig a mentrus. Byddwch yn ymroi i ddarlithoedd, seminarau a phrofiad arsylwi ac addysgu lle y byddwch wedi meddu ar sgiliau cyfoethog ar sut i gydweithio, arwain, ymateb a pharatoi gwersi heriol fel athro Celf creadigol ac arloesol.
Yma ym Mangor byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Celf rhagorol, ond hefyd yn athro’r Celfyddydau Mynegiannol, trwy roi’r cyfleoedd i chi archwilio agweddau o’r Cwricwlwm i Gymru a’r Medrau fel eich bod yn rhoi ffocws cadran wrth gynllunio gwersi cyffrous a chyfoethog.
Pam Astudio gyda Ni?
· Does unlle gwell i astudio eich cymhwyster TAR Celf nag yma ym Mangor, lle mae posibl astudio’n ddwyieithog, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – yn sicr, gall hyn agor drysau ar gyfer swyddi dros Gymru ac ymhellach. Heb amheuaeth, mae gennym naws gartrefol sy’n meithrin myfyrwyr Celf hapus, diymhongar a hyderus. Bydd gennych fynediad at adnoddau cyfoethog megis orielau ac amgueddfeydd Celf lleol ac atyniadau o harddwch naturiol yn Ngogledd Cymru i'ch ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg.
· Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn trosglwyddo'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn addysgwyr effeithiol ar gyfer y dyfodol. Cewch brofiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich cynnydd a chyflawniad tuag at Statws Athro Cymwysedig.
· Bydd cyfle i astudio meysydd penodol o ran rheoli ymddygiad yn gadarnhaol; gwahaniaethu strategol; dadansoddi theoriau damcaniaethwyr a chynllunio ar gyfer amgylchedd dysgu diogel a chyfforddus.
• Byddwn yn herio ac yn ysgogi drwy rol fodelu o ran datblygu’r medrau o fewn gwersi er mwyn sicrhau ffocws ar gywirdeb a phatrymau iaith cyfoethog gyda hyn fe roddir ystyriaeth gref ar strategaethau asesu i gydymffurfio ag Amser Gwella a Myfyrio (AMG).
• Mae lles, gofal, cymorth ac arweiniad yn flaenriaeth gennym er mwyn i bob myfyriwr deimlo’n hapus a diogel, a thrwy hynny arddangos agweddau cadarnhaol at ddysgu.
Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw
Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.
Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am 3F5L.
Course Information
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
1 Years
Start Date
2027-09-01
Campus
Main Site
Application Details
Varied
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
Unknown
Institution Code
B06
Points of Entry
Unknown
Search Postgraduate Courses at Bangor University
Take the next steps at Bangor University with our postgraduate course search.
Fees and funding
| Region | Costs | Academic Year | Year |
|---|---|---|---|
| England, Scotland, Northern Ireland, Wales, Republic of Ireland, Channel Islands | £9,790 | 2026/27 | Year 1 |
































