Course Overview - Creu Perfformio
Wrth ddewis astudio BA Creu Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth cewch brofiad creadigol a bywiog heb ei ail. Byddwch yn astudio mewn adeilad modern sy’n cynnig cyfleusterau gwych, a staff brwdfrydig fydd yn eich ysbrydoli. Cewch ymwneud â phartneriaid megis y BBC, S4C, Boom, Fiction Factory, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Arad Goch a llu o rhai eraill. Mae’r cwrs yma wedi ei gynllunio i sicrhau fod cydbwysedd rhwng profiad beirniadol a chreadigol, ac mi fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau deallusol, perfformiadol a thechnegol.
Dyma rai or rhesymau dros ...
Wrth ddewis astudio BA Creu Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth cewch brofiad creadigol a bywiog heb ei ail. Byddwch yn astudio mewn adeilad modern sy’n cynnig cyfleusterau gwych, a staff brwdfrydig fydd yn eich ysbrydoli. Cewch ymwneud â phartneriaid megis y BBC, S4C, Boom, Fiction Factory, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Arad Goch a llu o rhai eraill. Mae’r cwrs yma wedi ei gynllunio i sicrhau fod cydbwysedd rhwng profiad beirniadol a chreadigol, ac mi fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau deallusol, perfformiadol a thechnegol.

Dyma rai or rhesymau dros astudio Creu Perfformio yn Aberystwyth:
- adran egnïol a chreadigol lle daw drama a theatr, ffilm a’r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr ynghyd

- cyfuniad unigryw o ddulliau creadigol a beirniadol o ymdrin â’r pwnc

- staff dysgu rhagorol ag ystod eang o arbenigedd ym maes ymchwil a chreu theatr yn broffesiynol

- cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant fel National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Cwmni Theatr Quarantine a Theatr Genedlaethol Cymru

- cyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, pob un ag adnoddau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer o safon broffesiynol a rigiau goleuadau digidol a reolir drwy ETC Congo a phaneli rheoli Strand Lighting, offer PA Yamaha a Soundcraft, systemau clyweledol Sanyo a goleuadau Strand, a dau NXAMP; yn ogystal â chyfleusterau gwisgoedd a wardrob

- cysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau ar y campws, sef un o’r canolfannau celfyddydau mwyaf yng Nghymru, sy’n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd

- cymdeithasau drama egnïol myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

- lleoliad daearyddol unigryw

- cyfleoedd cyfnewid cyffrous yn Ewrop ac yn rhyngwladol.

**Cyflogadwyedd**
Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’n holl weithgareddau. Byddwch yn dysgu sgiliau gwerthfawr y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Yn eu plith mae: gweithio’n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu perfformiadau byw; defnyddio sgiliau creadigol, dyfeisgar a sgiliau datrys problemau mewn amryw o sefyllfaoedd; ymchwilio, cloriannu a threfnu gwybodaeth; saernïo a chyfleu syniadau’n effeithiol mewn amryw o sefyllfaoedd ac mewn amryw o ffyrdd; gweithio’n annibynnol a gydag eraill; trefnuch amser a defnyddioch sgiliau’n effeithiol; gwrando ar gyngor beirniadol a’i ddefnyddio; eich cymell eich hun ac arfer hunanddisgyblaeth; defnyddio amryw o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth; dangos mentergarwch wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi or hyn y maen bosib y byddwch yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
**Y flwyddyn gyntaf:**
- modiwlau rhagarweiniol ar greu, meddwl ac astudio

- dulliau cyfoes o greu theatr mewn stiwdio ac ar safle penodol

- enydau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol ym maes drama a’r theatr

- dadansoddi drama, theatr a pherfformio.

**Yr ail flwyddyn:**
- dulliau cyfoes o greu theatr o safbwynt ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol

- gwaith cynhyrchu ar raddfa lawn

- actio, cyfarwyddo a dramayddiaeth, dyfeisio, a dylunio

- datblygiad y Theatr Ewropeaidd fodern

- Shakespeare mewn perfformiadau cyfoes

- theatr a’r gymdeithas gyfoes

- y cyfryngau newydd ac ysgrifennu ar gyfer perfformio.

**Y flwyddyn olaf:**
- creu gwaith creadigol annibynnol

- cwblhau prosiect ymchwil mawr ac astudiaethau damcaniaethol uwch

- meithrin eich sgiliau mewn prosiectau cynhyrchu unigol ac mewn grŵp

- datblyguch sgiliau mentergarwch drwy gynhyrchu a churadu digwyddiadau diwylliannol

- ysgrifennu sgript ich drama eich hun

- astudio modiwlau arbenigol a all ymdrin â phynciau megis: gofod, lle a thirwedd, perfformio ac athroniaeth, perfformio, gwleidyddiaeth a phrotest, theatr, rhywedd a rhywioldeb, perfformio a phensaernïaeth, theatr gerddorol newydd, a’r ddrama gyfoes ym Mhrydain ac Iwerddon.