Trwy nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, arweinir a dysgir y cynllun uwchraddedig cenedlaethol hwn, yn bennaf, gan Brifysgol Aberystwyth. Maer cynllun hefyd yn cynnwys elfen gydweithredol, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n darparu ac yn dysgu’r modiwlau cyfieithu ar y pryd ac isdeitlo opsiynol.
Mae’r cynllun hwn yn addas i unrhyw un sy’n dymuno datblygu gyrfa ym maes cyfieithu proffesiynol. Mae’n gynllun hyblyg iawn a gallwch ddewis un o dri llwybr: Tystysgrif (60 credyd), Diploma (120 credyd) neu MA (180 credyd).
Mae’r cynllun yn cyfuno modiwlau arbe...

Mae’r cynllun yn cyfuno modiwlau arbenigol gyda chyfleoedd yn y gweithle ochr yn ochr â chyfieithwyr proffesiynol yn y sector cyfieithu. Byddwch yn cael cyfle i astudio damcaniaethau a thechnegau cyfieithu, technoleg ac adnoddau cyfieithu, yn ogystal â swyddogaeth y cyfieithydd yn y gweithle. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfieithu or radd uchaf, a rhoddir pwyslais cryf ar sesiynau ymarferol, ac ar weithdai.

Fech cyflwynir i bob agwedd ar gyfieithu ac mae’r meysydd astudio’n cynnwys cyfieithu cyffredinol, cyfieithu deddfwriaethol ac arbenigol; technoleg cyfieithu; cyfieithu creadigol rhyngwladol; yn ogystal â chyfieithu ar y pryd, a ddarperir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cewch hefyd ddewis cwblhau prosiect ymchwil.

Bydd yr MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol yn rhoi cyfle ichi ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer datblygu gyrfa lwyddiannus ym maes cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd. Fel arbenigwyr iaith, bydd y cymhwyster hwn yn rhoi sylfaen gadarn iawn ichi fedru ymuno’n hyderus â’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru, gan eich cynorthwyo i ymwneud yn llawn â’r agweddau ehangach hynny ar gyfieithu hefyd, megis isdeitlo.

Byddwch yn ymgeisydd cryf hefyd ar gyfer unrhyw swydd sy’n gofyn am sgiliau golygu a phrawfddarllen, ac o ganlyniad i’ch sgiliau iaith cadarn, byddwch yn gaffaeliad mawr i’r gweithlu dwyieithog yng Nghymru.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Part-time
Duration
24 Months
Start Date
09/2025
Campus
Penglais Campus
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
Unknown
Institution Code
A40
Points of Entry
Unknown
Take the next steps at Aberystwyth University with our postgraduate course search.