Maer radd BA Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd yn gwrs hynod ddifyr syn dod âr byd Celtaidd yn fyw ac yn tanior dychymyg.
Drwy ddewis Prifysgol Aberystwyth, byddin ymuno ag un or adrannau mwyaf blaenllaw ym maes y Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd. Cei ddysgu am ddiwylliant, llenyddiaeth, hanes ac ieithoedd Prydain, Iwerddon, Ewrop ar tu hwnt or cyfnod cynharaf hyd heddiw.
**Pam astudio Cymraeg ar Ieithoedd Celtaidd yn Aberystwyth?**
- Enw da yn rhyngwladol – Maer adran ymhlith y rhai sydd âr amgylchedd academaidd ac ysgolheigaidd bywiocaf yn y byd ym maes Astudiaet...
Maer radd BA Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd yn gwrs hynod ddifyr syn dod âr byd Celtaidd yn fyw ac yn tanior dychymyg.

Drwy ddewis Prifysgol Aberystwyth, byddin ymuno ag un or adrannau mwyaf blaenllaw ym maes y Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd. Cei ddysgu am ddiwylliant, llenyddiaeth, hanes ac ieithoedd Prydain, Iwerddon, Ewrop ar tu hwnt or cyfnod cynharaf hyd heddiw.

**Pam astudio Cymraeg ar Ieithoedd Celtaidd yn Aberystwyth?**
- Enw da yn rhyngwladol – Maer adran ymhlith y rhai sydd âr amgylchedd academaidd ac ysgolheigaidd bywiocaf yn y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd.

- Lleoliad heb ei ail - Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria, byddin rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion - y lle delfrydol i astudior Gymraeg ynghyd â hanes a threftadaeth cyfoethog y Celtiaid au hardaloedd yn fwy eang.

- Arbenigwyr - Maer adran yn ganolfan ymchwil a chanddi enw da yn rhyngwladol, ac yn gartref i dîm o arbenigwyr ysbrydoledig syn arwain y byd ym maes iaith a diwylliant Cymreig a Gwyddelig.

- Ieithoedd Celtaidd eraill - Ceir cyfle i ddysgu Gaeleg yr Alban a Llydaweg yn ogystal âr lenyddiaeth gysylltiedig.

- Astudio Dramor - Mae myfyrwyr y cynllun fel arfer yn treulio semester yn eu trydedd flwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor - profiad gwerthfawr syn datblygu sgiliau iaith a hyder.

- Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar y brig yn y DU ym maes Astudiaethau Celtaidd (NSS 2020).

- Dewis eang – Cei ddewis o blith ystod hynod ddiddorol o fodiwlau sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr.

- Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhaur elfen gymdeithasol sydd ir gymuned Gymraeg yma. Tyrd i fyw yn neuadd Pantycelyn, ymaeloda ag UMCA, cer ar deithiau rygbi, ymuna âr côr, a cher i nosweithiau megis Gwobraur Selar.

- Digwyddiadau Ysgogol - Wrth astudio yma, fe gei dir cyfle i fynychu cyfoeth o ddarlithoedd cyhoeddus, nosweithiau lansio llyfrau, perfformiadau a sgyrsiau yn yr Adran ei hun ar tu allan iddi.

- Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Mae’r Llyfrgell ar stepen drws Campws Penglais. Maen unigryw yng Nghymru ac yn rhoir cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar ei chasgliadau prin o lenyddiaeth.

- Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd - Maer Ganolfan yn sefydliad ymchwil wedi’i leoli gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Mae graddedigion y radd Cymraeg ar Ieithoedd Celtaidd yn canfod gwaith mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys addysg, gweinyddu, y cyfryngau ar sector cyhoeddus, yma a thramor. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

**Beth fydda in ei ddysgu?**
Gallai’r modiwlau y byddi’n eu dilyn ar y cwrs Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd gynnwys ‘Cyflwyniad i Wyddeleg Modern ai Llenyddiaeth’, ‘Cymraeg Ddoe a Heddiw’, ‘Diwylliant Celtaidd’ a ‘Braslun o Hanes ein Llên’ i enwi ond rhai.
Yn ystod dy ail a dy drydedd flwyddyn, byddi’n datblygu dy wybodaeth ymhellach ac yn cael dewis pynciau sydd o ddiddordeb penodol i ti.
Dros dair blynedd felly, byddi’n meithrin y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd ac yn magu dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol. Mae natur yr arlwy o fodiwlau yn golygu y gelli gyfuno astudiaeth iaith, llenyddiaeth a diwylliant cyfoes neu hanesyddol yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill.

**Sut bydda i’n cael fy addysgu?**
Yn Adran y Gymraeg byddin dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.

**Sut bydda in cael fy asesu?**
Bydd dy waith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site (Aberystwyth)
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
Q562
Institution Code
A40
Points of Entry
Year 1
UCAS Tariff96 120 To include C in A-level Welsh 1st or 2nd Language. Access to HE DiplomaThe University welcomes undergraduate applications from students studying the Access to Higher Education Diploma, provided that relevant subject content and learning outcomes are met. We are not able to accept Access to Higher Education Diplomas as a general qualification for every undergraduate degree course. International Baccalaureate Diploma Programme26 30 To include C in A-level Welsh 1st or 2nd Language. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DDM MMM To include C in A-level Welsh 1st or 2nd Language. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)Aberystwyth University welcomes the Welsh Baccalaureate as a valuable qualification in its own right and considers completion of the Welsh Baccalaureate Advanced Skills Challenge Certificate to be equivalent to an A level grade. A levelB,B,B C,C,C To include C in A-level Welsh 1st or 2nd Language. |
Find more courses from Aberystwyth University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
EU, International | £18,170 | 2024/25 | Year 1 |