Cwrs ar gyfer ymgeiswyr iaith gyntaf yn unig.
Bu sefydlu Senedd Cymru ac ychwanegu mwy o bwerau yn ddiweddarach ynghyd a Deddf yr Iaith Gymraeg yn sbardun ir angen am raddedigion o safon uchel - unigolion sydd syn gymwys i ymuno â gweithlu proffesiynol, ac i weithion hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg. Oherwydd hynny, maen amser hynod gyffrous i astudio Cymraeg yn y brifysgol. Wrth ddewis astudior cwrs BA Cymraeg Proffesiynol, byddin ymuno â chwrs Cymraeg arloesol sydd yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol a galwedigaethol syn addas ar gyfer y gweithle proffesiynol yn...
Cwrs ar gyfer ymgeiswyr iaith gyntaf yn unig.

Bu sefydlu Senedd Cymru ac ychwanegu mwy o bwerau yn ddiweddarach ynghyd a Deddf yr Iaith Gymraeg yn sbardun ir angen am raddedigion o safon uchel - unigolion sydd syn gymwys i ymuno â gweithlu proffesiynol, ac i weithion hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg. Oherwydd hynny, maen amser hynod gyffrous i astudio Cymraeg yn y brifysgol. Wrth ddewis astudior cwrs BA Cymraeg Proffesiynol, byddin ymuno â chwrs Cymraeg arloesol sydd yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol a galwedigaethol syn addas ar gyfer y gweithle proffesiynol yn y Gymru gyfoes ar tu hwnt. Heddiw, mae cyflogwyr, yn ogystal â darpar fyfyrwyr a rhieni, yn chwilio am radd ‘safon aur’ yn y Gymraeg. Dyma’r radd honno.

**Pam astudio Cymraeg Proffesiynol yn Aber?**
- Cartref Cymraeg Proffesiynol - Cyflwynwyd y cwrs yma yn gyntaf yn 2012 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

- Safonau Uchel - Fel adran rydym yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg.

- Arbenigwyr - Byddin cael dy ddysgu gan ddarlithwyr syn arbenigwyr yn eu meysydd.

- Darlithydd Cymraeg Proffesiynol Dynodedig - Maer cwrs yn cael ei gyd-lynu gan Dr Rhianedd Jewell, darlithydd dynodedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol, sydd yn rhoi ei sylw yn arbennig ir cwrs hwn.

- Amrywiaeth - Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o bynciau diddorol, o gyfieithu, golygu a chyhoeddi i ysgrifennu creadigol a hybu treftadaeth.

- Canlyniadau Gwych - Mae canlyniadau ein graddedigion mewn Cymraeg Proffesiynol o safon uchel iawn.

- Grwpiau Bach - Cwrs dethol yw hwn, ac felly maer dysgun digwydd mewn grwpiau bach. Maer sesiynau hyn yn adlewyrchu cyfarfodydd tîm y byd gwaith.

- Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Yn Aberystwyth cei fyw trwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhaur elfen gymdeithasol sydd ir gymuned Gymraeg yma: gweithgareddau UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), neuadd Pantycelyn, teithiau rygbi, côr Pantycelyn, a mwy.

- Boddhad Myfyrwyr - Yn yr arolwg cenedlaethol diweddar o fodlonrwydd myfyrwyr, roedd 100% o foddhad cyffredinol ym maes Astudiaethau Cymraeg ac roedd 94% o foddhad cyffredinol yn yr Adran (NSS 2020).

- Y Llyfrgell Genedlaethol - Yn ogystal âr adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, maer Adran ar stepen drws y Llyfrgell Genedlaethol - llyfrgell hawlfraint sydd â thros 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau ac fe gei ymaelodin rhad ac am ddim!

Dyma grynodeb or hyn y maen bosibl y byddin ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

**Blwyddyn 1**
Yn y flwyddyn gyntaf byddin astudior modiwl Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol. Fel y maer enw yn ei awgrymu, maer modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad ir maes. Byddin dysgu rhychwant o sgiliau megis cyfieithu ar y pryd, sgiliau gweinyddol, siarad cyhoeddus, golygu a marchnata. Bydd cyfle iti weithio fel tîm ac i ddatblygu dy sgiliau marchnata wrth drefnur Noson Llên a Chân. Byddin cael gweithredu ar fwrdd golygyddol Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol yr Adran. Ti ar myfyrwyr eraill fydd yn comisiynu ac yn golygur gwaith.

**Blwyddyn 2 a 3**
Yn yr ail ar drydedd flwyddyn byddin dilyn pedwar modiwl Cymraeg Proffesiynol:
Y Gymraeg yn y Gweithle - Modiwl profiad gwaith yw hwn; Trosi ac Addasu - Modiwl cyfieithu; Bro a Bywyd - trafod twristiaeth a threftadaeth lenyddol; Prosiect Hir - cyfle i weithio ar brosiect ymchwil gwreiddiol ym maes Cymraeg Proffesiynol. Cei ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau eraill yr Adran yn ogystal.

**Sut y bydda in cael fy addysgu?**
Drwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae’r grwpiau yn llai a’r awyrgylch yn fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.

**Sut y bydda in cael fy asesu?**
Mae gwaith y myfyrwyr yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site (Aberystwyth)
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
Q5P0
Institution Code
A40
Points of Entry
Year 1
UCAS Tariff104 120 To include B in A-level Welsh 1st Language. Access to HE DiplomaThe University welcomes undergraduate applications from students studying the Access to Higher Education Diploma, provided that relevant subject content and learning outcomes are met. We are not able to accept Access to Higher Education Diplomas as a general qualification for every undergraduate degree course. International Baccalaureate Diploma Programme28 30 To include B in A-level Welsh 1st Language. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DDM DMM To include B in A-level Welsh 1st Language. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)Aberystwyth University welcomes the Welsh Baccalaureate as a valuable qualification in its own right and considers completion of the Welsh Baccalaureate Advanced Skills Challenge Certificate to be equivalent to an A level grade. A levelB,B,B B,C,C To include B in A-level Welsh 1st Language. |
Find more courses from Aberystwyth University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
EU, International | £18,170 | 2024/25 | Year 1 |