Mae ein cynllun gradd Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth a hanes diweddar gan osod astudiaeth syniadau a sefydliadau gwleidyddol yng nghyd-destun deall datblygiadau hanesyddol. Cyfuna’r cwrs arbenigedd gwyddonwyr gwleidyddol a haneswyr mewn cwrs sydd â strwythur integredig a fydd yn caniatáu dewis eang o fodiwlau i ti. Bydd y dysgu yn cael ei rannu rhwng Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; mae gan y ddwy enw da am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu meysydd perthnasol.
- Byddwch yn cael eich dysgu mewn dwy adran sy...
Mae ein cynllun gradd Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth a hanes diweddar gan osod astudiaeth syniadau a sefydliadau gwleidyddol yng nghyd-destun deall datblygiadau hanesyddol. Cyfuna’r cwrs arbenigedd gwyddonwyr gwleidyddol a haneswyr mewn cwrs sydd â strwythur integredig a fydd yn caniatáu dewis eang o fodiwlau i ti. Bydd y dysgu yn cael ei rannu rhwng Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; mae gan y ddwy enw da am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu meysydd perthnasol.

- Byddwch yn cael eich dysgu mewn dwy adran sydd â hanes hir a llewyrchus. Mae Hanes yn cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, ar Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol oedd y gyntaf oi bath pan sefydlwyd hi yn 1919.

- Maer Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ymysg y 40 uchaf yn y byd am ei henw da yn academaidd. (QS. 2017).

- Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddaraf, roedd Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 10 uchaf yn y DU am ansawdd ei dysgu yn y pynciau Hanes a Gwleidyddiaeth.

- Yn fyfyriwr ar y cwrs hwn, cewch eich mentora ach tywys gan ddarlithwyr syn frwdfrydig ac yn ymroddedig i greu amgylchedd dysgu rhagorol a deinamig ichi.

- Mae ein haddysgun arloesol, yn seiliedig ar ymchwil ac wedii chynllunio i ddatblyguch sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd megis dadansoddi, dehongli a chyfathrebu. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.

- Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg yr enwog Gemau Argyfwng - ymarferion chwarae rôl dros dri diwrnod syn ymdrin ag ymarferion gwleidyddol, economaidd a diplomyddol a fydd yn datlyguch sgiliau trafodaeth a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithion rhan o dîm, a datrys problemau.

- Maer ddwy adran yn cynnig y cyfle i astudio dramor. Gall astudio yn un on prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc ar cyfle i ddyfnhau ac ateguch astudiaethau yn Aberystwyth.

- Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cynnig nifer o gynlluniau gradd a modiwlau a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, a byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfrau, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn galluch helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol.

Mae cyflogadwyedd wedii wreiddio ar draws ein dysgu. Byddwn yn eich dysgu i anelu am yr yrfa rydych yn ei dymuno, ac nid y swydd y gallech ei gael.
Maer Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg Cynllun Lleoliad Gwaith Seneddol uchel ei barch, syn gyfle ichi ennill profiad hynod werthfawr ochr yn ochr ag Aelod Seneddol (Tŷr Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf.
Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn gartref i Interstate – y cyfnodolyn myfyrwyr gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf yn y DU, a chyfle unigryw i gyhoeddi eich gwaith neu i ennill profiad gwerthfawr yn gweithio fel rhan o’r tîm golygu. Maer adran hefyd yn cynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ynghyd â gweithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol.

Bydd astudio am y radd Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Hanes yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr ichi. Ymhlith rhain mae: y gallu i fynegi syniadau ac i gyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar; datrys problemau a meddwl yn greadigol effeithiol; y gallu i weithion annibynnol; sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser; hunangymhelliant a hunanddibyniaeth;
gweithio mewn tîm, gydar gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan wrando ar syniadau gwahanol a dod i gytundeb; sgiliau ymchwil.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site (Aberystwyth)
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
2DLV
Institution Code
A40
Points of Entry
Year 1
UCAS Tariff96 120 Access to HE DiplomaThe University welcomes undergraduate applications from students studying the Access to Higher Education Diploma, provided that relevant subject content and learning outcomes are met. We are not able to accept Access to Higher Education Diplomas as a general qualification for every undergraduate degree course. International Baccalaureate Diploma Programme26 30 Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DDM MMM Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)Aberystwyth University welcomes the Welsh Baccalaureate as a valuable qualification in its own right and considers completion of the Welsh Baccalaureate Advanced Skills Challenge Certificate to be equivalent to an A level grade. A levelB,B,B C,C,C |
Find more courses from Aberystwyth University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
EU, International | £18,170 | 2024/25 | Year 1 |