Drwy ddewis astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn astudio un o’r pynciau mwyaf gwerthfawr. Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n chwilfrydig am y gorffennol a’r ffordd mae cymdeithasau dynol wedi esblygu dros amser. Bydd gradd mewn Hanes yn caniatáu i chi osod y gorffennol mewn persbectif a’ch arfogi eich hun â sgiliau dadansoddol dehongli, dadansoddi a chyfathrebu sydd mor hanfodol mewn bywyd bob dydd ac y mae cyflogwyr yn awyddus iawn i’w canfod.
Mae Hanes wedi’i ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r hynaf yng Nghymru ac un o’r blaenaf ym Mhr...
Drwy ddewis astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn astudio un o’r pynciau mwyaf gwerthfawr. Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n chwilfrydig am y gorffennol a’r ffordd mae cymdeithasau dynol wedi esblygu dros amser. Bydd gradd mewn Hanes yn caniatáu i chi osod y gorffennol mewn persbectif a’ch arfogi eich hun â sgiliau dadansoddol dehongli, dadansoddi a chyfathrebu sydd mor hanfodol mewn bywyd bob dydd ac y mae cyflogwyr yn awyddus iawn i’w canfod.

Mae Hanes wedi’i ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r hynaf yng Nghymru ac un o’r blaenaf ym Mhrydain. Mae ein graddau’n arloesol sy’n sicrhau y cewch y cymhwyster gorau.

Fe’n graddiwyd yn uchel gan ein myfyrwyr yn yr Arolwg Blynyddol o Fyfyrwyr (NSS). Mae ein meysydd pwnc yn amrywio o hanes cynnar i hanes modern, hanes gwleidyddol, hanes cymdeithasol, hanes economaidd a diwylliannol.

Mae gennym lyfrgell hawlfraint ar y campws, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!

Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr: ‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’. Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol;
Addysg; Y Gyfraith; Archifwyr; Cyhoeddwyr; Gwleidyddion; Gweision Sifil; Y Cyfryngau; Y Lluoedd Arfog; Entrepreneuriaid.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site (Aberystwyth)
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
V101
Institution Code
A40
Points of Entry
Year 1
UCAS Tariff96 120 Access to HE DiplomaThe University welcomes undergraduate applications from students studying the Access to Higher Education Diploma, provided that relevant subject content and learning outcomes are met. We are not able to accept Access to Higher Education Diplomas as a general qualification for every undergraduate degree course. International Baccalaureate Diploma Programme26 30 Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DDM MMM Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)Aberystwyth University welcomes the Welsh Baccalaureate as a valuable qualification in its own right and considers completion of the Welsh Baccalaureate Advanced Skills Challenge Certificate to be equivalent to an A level grade. A levelB,B,B C,C,C |
Find more courses from Aberystwyth University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
EU, International | £18,170 | 2024/25 | Year 1 |