Drwy gyfuno’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall astudio gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml, ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar.
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw c...
Drwy gyfuno’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall astudio gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml, ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi seiliau ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu’n gysylltiedig â’ch gyrfa.

O astudio Gwleidyddiaeth, cewch archwilio sut mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu, a gwerthuso syniadau gwleidyddol megis pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd; ac mae’r cwrs yn cynnwys cysylltiadau rhyngwladol hefyd.

Mae’r modiwlau’n amrywio, gan roi cyfle ichi archwilio sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio ym Mhrydain a’r tu hwnt, yn ogystal ag ymchwilio i’r modd y mae polisi cyhoeddus yn cael ei lunio. Mae llwybrau gwaith eraill yn trafod cyfiawnder, democratiaeth, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu dealltwriaeth eang o wleidyddiaeth sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion penodol chi.

Nod y radd hon yw ceisio rhoi dealltwriaeth ardderchog o wleidyddiaeth a llywodraeth ichi, gan roi hefyd y sgiliau deallusol a chyfathrebu cysylltiedig a fydd o werth pun a fyddwch yn gweithio i’r Llywodraeth neu yn y sectorau preifat neu wirfoddol.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:
•y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
•modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
•ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
•y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
•y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
•y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
•y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
•cysylltiadau academaidd â Chynulliad Cenedlaethol Cymru trwy Ganolfan Llywodraethiant Cymru a pherthynas hir-sefydledig â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol fel Senedd San Steffan, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site - Cardiff
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
QL52
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
UCAS TariffNot Accepted International Baccalaureate Diploma Programme31 29 31-29 overall or 665-655 in 3 HL subjects. You must also have a Welsh Language qualification equivalent to grade B at A-level. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DM in a BTEC Diploma in Humanities or Social Science subjects and grade B in Welsh First or Second Language. GCSE/National 4/National 5You must have: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements. Extended ProjectA For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example, an AAB offer would be “AAB from 3 A-levels or ABB from 3 A-levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)The Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in place of one A-level at the A-level grades specified, excluding any subject specific requirements. A levelB,B,B B,C,C Must include grade B in Welsh First or Second Language. T LevelAcceptance of T Levels for this programme will be considered on a case-by-case basis by the Academic School. Consideration will be given to the T Level grade/subject and grades/subjects achieved at GCSE/Level 2. |
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
EU, International | £23,700 | 2024/25 | Year 1 |