Gyda’n rhaglen BA Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, ac yn ymwneud â llenyddiaeth Saesneg o wahanol gyfnodau a diwylliannau, ar draws yr ystod o brif genres llenyddol. Byddwch yn ennill sgiliau lefel uchel mewn Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig syn berthnasol ir Gymru fodern a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn fford...
Gyda’n rhaglen BA Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, ac yn ymwneud â llenyddiaeth Saesneg o wahanol gyfnodau a diwylliannau, ar draws yr ystod o brif genres llenyddol. Byddwch yn ennill sgiliau lefel uchel mewn Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig syn berthnasol ir Gymru fodern a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol.

Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os ywr Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf ar ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y mwyafrif o fodiwlaur ail flwyddyn, a holl fodiwlaur flwyddyn olaf. Mae opsiynau modiwl yn eich galluogi i archwilio pynciau fel ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.

Ym maes Llenyddiaeth Saesneg, mae’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celf, hanes, technoleg, iaith, a bywyd bob dydd wedi ein cyfareddu, ac mae ein haddysgu yn adlewyrchu’r diddordebau hyn. Byddwch yn dysgu sut mae llenyddiaeth yn mynd ir afael â phryderon cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd gydar nod o greu byd gwell, mwy cynhwysol a datblygu atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol y blaned. Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, gallwch arbenigo yn eich dewis feysydd astudio.

Yn ystod eich gradd, cewch gyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle siaredir Cymraeg yn ddyddiol, i ddatblygu eich hyder a’ch sgiliau proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc och dewis syn ymwneud âr iaith Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth. Mae modiwl craidd blwyddyn olaf mewn Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi’r cyfle i chi wneud archwiliad manwl o un testun ar draws semester cyfan a defnyddio’r profiad a’r wybodaeth a enillwyd fel sail i ddarn o waith sydd ar gael i’r cyhoedd.

Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu a dadansoddi beirniadol. Byddwch hefyd yn ymwybodol or heriau ieithyddol a diwylliannol syn wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes, a bydd gennych y syniadau ar hyder sydd eu hangen iw datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.

**Nodweddion Unigryw’r Rhaglen**
**Dilynwch eich diddordebau:** Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg, a gwahanol gyfnodau a genres mewn llenyddiaeth Saesneg.
**Meddyliwch dros eich hun:** Ymdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau mewn ffordd annibynnol a meddwl agored.
**Antur ac archwilio:** Cyfleoedd i astudio dramor yn Ewrop a thu hwnt, gan feithrin annibyniaeth a gwytnwch.
**Cymraeg yn y gweithle:** Magwch eich hyder ach sgiliau ymarferol drwy ddefnyddior Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.
**Cyfathrebu’n effeithiol:** Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a dadleuon ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site - Cardiff
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
QQ53
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
UCAS TariffNot Accepted International Baccalaureate Diploma Programme34 31 34-31 overall or 666-665 in 3 HL subjects. Must include grade 6 in HL English Language and Literature, English Literature, or English Literature and Performance. You must also have a Welsh Language qualification equivalent to grade B at A-level. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)D in a BTEC in Humanities or Social Science subjects, and grades AB-BB in A-level Welsh First or Second Language, and A-level Creative Writing, English Language and Literature, or English Literature GCSE/National 4/National 5You must have: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements. Extended ProjectA For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example an AAB offer would be “AAB from 3 A levels or ABB from 3 A levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)The Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in lieu of one A Level at the A Level grades specified, excluding any subject specific requirements. A levelA,A,B B,B,B Must include Welsh First or Second Language, and Creative Writing, English Language and Literature, or English Literature. T LevelAcceptance of T Levels for this programme will be considered on a case-by-case basis by the Academic School. Consideration will be given to the T Level grade/subject and grades/subjects achieved at GCSE/Level 2. |
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
EU, International | £23,700 | 2024/25 | Year 1 |