Drwy gyfuno’r Gymraeg a Newyddiaduraeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.
Gall astudio gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc.
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, l...
Drwy gyfuno’r Gymraeg a Newyddiaduraeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.

Gall astudio gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen i chi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.

Nod cyffredinol Newyddiaduraeth yw arfogi myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion gwybodus mewn cymdeithas sy’n orlawn o gyfryngau. Mae’n dechrau gydar rhagdybiaeth fod angen i ni ddeall y rôl ganolog a chwaraeir gan y cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol er mwyn deall cymdeithas fodern.

Byddwch yn gallu cymryd rhai modiwlau ymarferol, ond mae pwyslais y radd yn academaidd a dadansoddol.

SYLWER: Nid yw’r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr Cymraeg ail iaith. Bydd ymgeiswyr ir radd hon fel arfer wedi astudio rhai cymwysterau ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad ydych wedi gwneud hynny ond eich bod yn teimlo bod eich Cymraeg o safon cyfatebol, anfonwch e-bost at cymraeg@caerdydd.ac.uk.

**Nodweddion nodedig**

- y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle

- modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith

- ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa

- modiwlau cyfryngau mor amrywiol â Rheoli Cyfryngau Cyfathrebu, Gwleidyddiaeth Rhyfel a Phropaganda ac Achosion Cyfathrebu

- y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa

- y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol

- y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil

- y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn

- mynediad at gynlluniau Erasmus ac Astudio Dramor

- wythnosau gyrfaoedd a gweithdai wedi eu trefnu’n rheolaidd i sicrhau eich bod chi’n barod ar gyfer byd gwaith

Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site - Cardiff
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
PQ55
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
UCAS TariffNot Accepted International Baccalaureate Diploma Programme31 29 31-29 overall or 665-655 in 3 HL subjects. You must also have a Welsh Language qualification equivalent to grade B at A-level. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DM in a BTEC Diploma in Humanities or Social Science subjects and grade B in Welsh First or Second Language. GCSE/National 4/National 5You must have: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements. Extended ProjectA For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example, an AAB offer would be “AAB from 3 A-levels or ABB from 3 A-levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)The Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in place of one A-level at the A-level grades specified, excluding any subject specific requirements. A levelB,B,B B,B,C Must include grade B in Welsh First or Second Language. T LevelAcceptance of T Levels for this programme will be considered on a case-by-case basis by the Academic School. Consideration will be given to the T Level grade/subject and grades/subjects achieved at GCSE/Level 2. |
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
EU, International | £23,700 | 2024/25 | Year 1 |