Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio rhaglen gydanrhydedd yn brofiad gwerth chweil gan eu bod yn gallu gweld yr hyn syn debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Drwy gyfuno’r Gymraeg ac Addysg, byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth a fydd yn fuddiol ar gyfer eich dyfodol.
**CYMRAEG**
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg,...
Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio rhaglen gydanrhydedd yn brofiad gwerth chweil gan eu bod yn gallu gweld yr hyn syn debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Drwy gyfuno’r Gymraeg ac Addysg, byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth a fydd yn fuddiol ar gyfer eich dyfodol.

**CYMRAEG**

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.

**ADDYSG**

Mae ein gwaith addysgu ar Addysg wedi ei seilio ar ein hymchwil ym myd addysg a’r datblygiadau diweddaraf o ran polisi ac ymarfer, gan gwmpasu agweddau ar ddiwylliant a hunaniaeth, plentyndod ac ieuenctid, rhywedd ac ethnigrwydd, a chyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiad.

Mae modiwlau craidd wedi eu hanelu at ddatblygu dealltwriaeth ddofn o gyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol, gwleidyddol, economaidd a datblygiadol addysg – yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml syn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neun ymchwil diweddar.

Mae’r ddwy ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd hon yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y myfyrwyr a’r staff.

NODYN: Fel arfer, maer radd gydanrhydedd hon yn agored dim ond i ddarpar fyfyrwyr sydd wedi astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ar gyfer Safon Uwch. Os nad ydych wedi gwneud hynny ond eich bod yn teimlo bod eich Cymraeg o safon cyfatebol, anfonwch e-bost at cymraeg@caerdydd.ac.uk.

**Nodweddion nodedig**

**CYMRAEG**

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:
- Y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle

- Modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith

- Ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa

- Y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd i chi drwy gydol eich gyrfa

- Y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol

- Y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil

- Y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn

**ADDYSG**
- Er nad yw hwn yn gymhwyster addysgu, maen gyfle i astudio addysg mewn ffyrdd syn mynd y tu hwnt i ffocws ar ymarfer addysgu. Byddwch yn astudio’r dadleuon ehangach ynghylch addysg, gan osod y sylfaen ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.

- Mae ein cysylltiadau agos â llunwyr polisi, yn ogystal ag ysgolion, colegau a sefydliadau addysg a hyfforddiant eraill lleol, yn darparu cyfleoedd ichi ymgysylltu o ddifrif ag addysgwyr ac arferion. Mae nodweddion unigrywr cwrs yn cynnwys:

- Y cyfle ichi ddysgu mewn Ysgol a gyrhaeddodd y 3ydd safle yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd ymchwil mewn cymdeithaseg a’r 5ed safle o ran addysg yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF)

- Ymwneud â staff sy’n weithredol ym myd ymchwil ac addysgu

- Y pwyslais ar ddysgu’n annibynnol mewn amgylchedd a arweinir gan ymchwil

- Yr amrywiaeth o fodiwlau sydd ar gael mewn Ysgol amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol

- Y cyfle i astudio dramor

Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site - Cardiff
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
QX53
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
UCAS TariffNot Accepted International Baccalaureate Diploma Programme31 29 31-29 overall or 665-655 in 3 HL subjects. You must also have a Welsh language qualification equivalent to grade B at A level. If you have grade 6 in a HL language you will have access to the languages Upper Elementary pathway. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DM in a BTEC Diploma in Arts, Humanities, Science and Social Science subjects and grade B in Welsh First or Second Language at A Level. If you have grade B in a language at A level in combination with or in addition to the BTEC you will have access to the languages Upper Elementary pathway. If you have grade B in the relevant language A-level in addition to or in combination with a BTEC you will have access to the languages advanced pathways. GCSE/National 4/National 5You must have or be working towards: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements. Extended ProjectA For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example, an AAB offer would be “AAB from 3 A-levels or ABB from 3 A-levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)The Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in place of one A-level at the A-level grades specified, excluding any subject specific requirements. A levelB,B,B B,C,C Must include grade B in Welsh First or Second Language. T LevelAcceptance of T Levels for this programme will be considered on a case-by-case basis by the Academic School. Consideration will be given to the T Level grade/subject and grades/subjects achieved at GCSE/Level 2. |
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
EU, International | £23,700 | 2024/25 | Year 1 |