Drwy gyfuno’r Gymraeg a Cherddoriaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r pynciau, boed y rheiny’n ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar.
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cyn...
Drwy gyfuno’r Gymraeg a Cherddoriaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r pynciau, boed y rheiny’n ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae rhaglenni israddedig yr Ysgol Cerddoriaeth yn hyblyg ac yn heriol, gan roi cyfle ichi arbenigo a datblygu eich diddordebau eich hun ochr yn ochr â chael eich trwytho ym meysydd estheteg cerddoriaeth, dadansoddi, cyfansoddi, ethnogerddoreg, hanes cerddoriaeth, a pherfformiad. Mae lleoliad yr ysgol yn ychwanegu’n fawr at ei hapêl ar gyfer selogion cerddoriaeth, gan fod Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer astudio cerddoriaeth yn y DU: mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol, Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gydar ddau sefydliad syn caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynychu ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.

**Nodweddion nodedig**

- y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle

- modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith

- ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa

- y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa

- y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol

- y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil

- y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn

- maer hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannun llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, gan gynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol.

- y modiwl Busnes Cerddoriaeth sy’n cynnig lleoliad gwaith byr

- cyfleoedd dysgu fel gweithdai cyfansoddi, y dosbarthiadau meistr ar berfformio, cyfres cyngherddau’r Brifysgol, darlithoedd John Bird gan academyddion gwadd, ynghyd â’r sgyrsiau gyrfaoedd sy’n cynnig cyfleoedd i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol sy’n weithredol ym myd cerddoriaeth

1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site - Cardiff
29 January
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
QW53
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
Not Accepted
31
29
31-29 overall or 665-655 in 3 HL subjects. Must include grade 6 in HL Music. You must also have a Welsh Language qualification equivalent to grade B at A-level.
D-M in a BTEC Certificate in any subject, grade B in A-level Music, and grade B in Welsh (First or Second language).
You must have or be working towards: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements.
A
For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example an AAB offer would be “AAB from 3 A levels or ABB from 3 A levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met.
B,B,B
B,C,C
Must include Music and Welsh First or Second Language.
Acceptance of T Levels for this programme will be considered on a case-by-case basis by the Academic School. Consideration will be given to the T Level grade/subject and grades/subjects achieved at GCSE/Level 2.
The Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in lieu of one A Level at the A Level grades specified, excluding any subject specific requirements.
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,535 | 2025/26 | Year 1 |
EU, International | £23,700 | 2025/26 | Year 1 |