Mae’r cwrs BSc Rheoli Busnes a’r Gymraeg yn un arloesol a modern sy’n ceisio cyfuno prif elfennau gradd Rheoli Busnes ag astudio’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd o fewn y farchnad lafur newidiol yng Nghymru. Bwriedir i’r cyfuniad hwn gwella amrywiaeth y cyfleoedd gwaith proffesiynol sydd ar gael i raddedigion wrth roi addysg amlddisgyblaethol ac eang ym meysydd Rheoli Busnes a’r Gymraeg, yn ogystal â chynnig opsiynau hyblyg i fyfyrwyr sydd am ddilyn pynciau gwahanol sy’n datblygu sgiliau iaith.
Drwy astudio Rheoli Busnes, byddwch yn mei...
Mae’r cwrs BSc Rheoli Busnes a’r Gymraeg yn un arloesol a modern sy’n ceisio cyfuno prif elfennau gradd Rheoli Busnes ag astudio’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd o fewn y farchnad lafur newidiol yng Nghymru. Bwriedir i’r cyfuniad hwn gwella amrywiaeth y cyfleoedd gwaith proffesiynol sydd ar gael i raddedigion wrth roi addysg amlddisgyblaethol ac eang ym meysydd Rheoli Busnes a’r Gymraeg, yn ogystal â chynnig opsiynau hyblyg i fyfyrwyr sydd am ddilyn pynciau gwahanol sy’n datblygu sgiliau iaith.

Drwy astudio Rheoli Busnes, byddwch yn meithrin gwybodaeth drylwyr am y prif ddisgyblaethau sy’n berthnasol i reoli a busnes, ynghyd â gwerthfawrogiad o’r gwahanol feysydd swyddogaethol sy’n rhan o sefydliadau busnes. Felly, byddwch yn datblygu craidd cadarn o wybodaeth ym maes Rheoli Busnes a fydd yn eich galluogi i adeiladu ar sylfeini cryf i arbenigo mewn meysydd sy’n ennyn eich diddordeb ac yn adlewyrchu eich dyheadau o ran gyrfa. Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel yn yr iaith ei hun, yn ogystal â datblygu dealltwriaeth drylwyr o’i lle yn y Gymru gyfoes. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, cewch gyfle i ddatblygu arbenigedd drwy ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Maer rhain yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd sy’n arbennig o berthnasol i reoli a busnes, gan gynnwys cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, cymdeithaseg iaith, sosioieithyddiaeth, technoleg iaith a chyfieithu proffesiynol, yn ogystal â phynciau llenyddol, ieithyddol a diwylliannol.

Mae’r Ysgol Busnes yn darparu ar gyfer myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa mewn busnes a rheoli, gan adlewyrchu ehangder ein harbenigedd ymchwil a datblygiadau cyfredol yn y byd busnes. Mae cyfres o gyrsiau ar gael i’w gwneud ym maes Rheoli Busnes, ac maer cynllun newydd hwn yn ychwanegu at ein portffolio ac yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudior Gymraeg ochr yn ochr â Rheoli Busnes.

Mae Cymraeg yn ddisgyblaeth ddeinamig ac amrywiol, ac maer ystod eang o fodiwlau arbenigol a gynigir gan yr Ysgol yn adlewyrchu ei chyfoeth. Mae llawer o feysydd dan sylw wrth astudio’r Gymraeg sydd, yn naturiol, yn ategu astudio busnes a rheoli, fel cynllunio ieithyddol (yn y sector cyhoeddus, y sector preifat ar trydydd sector), polisi iaith a thechnoleg iaith.

Agwedd werthfawr arall ar ddarpariaeth yr Ysgol ar gyfer israddedigion ywr ffordd y mae modiwlau llenyddol, diwylliannol a chreadigol yn pwysleisio cyd-destun diwylliannol ehangach y Gymraeg. Mae modiwlau mewn ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth plant a threftadaeth a thwristiaeth, er enghraifft, yn cyfuno gwybodaeth am bwnc arbenigol, y cyd-destun diwylliannol a sgiliau perthnasol er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth myfyrwyr o’r Gymraeg yn y Gymru gyfoes. Gallai modiwlau or fath fod yn arbennig o berthnasol i fyfyrwyr sydd o bosibl am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant creadigol, y diwydiant cyhoeddi neu’r diwydiant treftadaeth, er enghraifft.
Mae Ysgol y Gymraeg hefyd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau llenyddol, diwylliannol a chreadigol i fyfyrwyr sydd o bosibl am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi neu’r diwydiant treftadaeth, er enghraifft.

A hithau’n adnabyddus am ansawdd ac effaith ei hymchwil, mae darpariaeth yr Ysgol yn y Gymraeg ar gyfer israddedigion wedi’i chynllunio i fod yn berthnasol i’r Gymru gyfoes. Mae Ysgol y Gymraeg yn ceisio cynhyrchu graddedigion dwyieithog a galluog â dealltwriaeth drwyadl or iaith Gymraeg, ei diwylliant ai lle mewn cymdeithas fodern.

Bydd gan raddedigion y cwrs Rheoli Busnes a’r Gymraeg sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol da iawn, wedi’u cyfuno â chraffter busnes dwyieithog sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr yn y gweithle cystadleuol sydd ohoni.

Bydd myfyrwyr sy’n gwneud y cwrs hwn yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant o £500 y flwyddyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan y byddant yn astudio o leiaf 33% (40 o gredydau’r flwyddyn) o bwnc yr ysgoloriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site - Cardiff
29 January
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
NQ26
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
Not Accepted
34
31
34-31 overall or 666-665 in 3 HL subjects. You must also have demonstrable Welsh language skills.
DD in a BTEC Diploma in Business and grade B in A-level Welsh First Language. Second language Welsh students are not eligible for this programme.
You must have or be working towards: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements. - GCSE Maths gra
A
For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example an AAB offer would be “AAB from 3 A levels or ABB from 3 A levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met.
A,A,B
B,B,B
Must include Welsh First Language. Second language Welsh students are not eligible for this programme.
Not Accepted
The Advanced Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in lieu of one A Level at the A Level grades specified, excluding any subject specific requirements.
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,535 | 2025/26 | Year 1 |
EU, International | £23,700 | 2025/26 | Year 1 |