Maer pwnciau y Gymraeg a Ddaearyddiaeth yn Brifysgol Aberystwyth yn mwyaf blaenllaw a phrofiadol o’i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth a Cymraeg yn un o’r lleoliadau prydferthaf yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd; mae hi mewn lle unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sy’n ei hamgylchynu, ac yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a ham...
Maer pwnciau y Gymraeg a Ddaearyddiaeth yn Brifysgol Aberystwyth yn mwyaf blaenllaw a phrofiadol o’i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth a Cymraeg yn un o’r lleoliadau prydferthaf yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd; mae hi mewn lle unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sy’n ei hamgylchynu, ac yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi.

Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes a rhyngwladol. Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Bywyd Cymdetihas Cymraeg Byrlymus – Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau’r eflen gymdeithasol sydd i’r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi’r Geltaidd, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau’r Selar.

Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol, ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. Bydd y radd hon yn eich arfogi â’r sgiliau, y galluoedd a’r arbenigedd i wynebu ac ymgysylltu â’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sydd ohoni. Trwy achrediad cydnabyddir rhaglenni sy’n darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, y dulliau a’r nodweddion proffesiynol daearyddol sy’n ddisgwyliedig gan raddedigion safonol ym maes daearyddiaeth, fel a gofnodwyd yn Natganiad Meincnod Pwnc yr ASA ar gyfer Daearyddiaeth.

Gan ein bod yn gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol: Prosesau dalgylch afon; Rhewlifeg; Biodaearyddiaeth; Newid Amgylcheddol Cwaternaidd; Tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon; Cynaliadwyedd Trefol; Datblygu Rhanbarthol; Daearyddiaeth Wleidyddol a Diwylliannol; Cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill; Gwobrau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400); Cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu; Labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol. Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser. Ymhlith y setiau sgiliau y mae: Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol; Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol; Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn; Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm; Sgiliau rheoli amser a threfnu; Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar; Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth.

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.