Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae plant yn dysgu ar sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu i fod yn athro/athrawes arloesol a chreadigol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae’r lleoliadau ysgol mewn amrywiaeth eang o leoliadau. yn cynnwys ysgolion trefol a gwledig, ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig lle cewch gefnogaeth gan staff profiadol i ddysgu sut i baratoi cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd.
Maer radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich hyfforddi fel athro cynradd wedi’ch...
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae plant yn dysgu ar sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu i fod yn athro/athrawes arloesol a chreadigol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae’r lleoliadau ysgol mewn amrywiaeth eang o leoliadau. yn cynnwys ysgolion trefol a gwledig, ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig lle cewch gefnogaeth gan staff profiadol i ddysgu sut i baratoi cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd.

Maer radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich hyfforddi fel athro cynradd wedi’ch cymhwyso’n arbennig i addysgu yng Nghymru ac maer un mor ddilys ir rhai sydd eisiau dysgu yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Maen amser gwych i ddod i astudio i fod yn athro yng Nghymru. Mae addysg yng Nghymru yn cychwyn ar oes newydd gyffrous ac yn datblygu cwricwlwm or radd flaenaf i ysgolion. Mae Prifysgol Bangor, sydd ag enw rhagorol hirsefydlog am hyfforddiant ac addysg athrawon, mewn partneriaeth ag ysgolion o ansawdd uchel yng ngogledd Cymru sydd wedi chwarae rhan bwysig yn cynllunior cwrs y byddwch yn ei astudio. Cyflwynir y cwrs hwn fel rhan or Bartneriaeth CaBan rhwng ysgolion, Prifysgol Bangor, Consortiwm Rhanbarthol GwE a sefydliad ymchwil CIEREI. Gydan gilydd rydym yn rhannur nod cyffredin o addysgur genhedlaeth nesaf o addysgwyr o safon ryngwladol, a hynny o addysg gychwynnol athrawon hyd at ddysgu proffesiynol parhaus ar hyd eu gyrfa.

Mae gan ein hysgolion partner fentoriaid sydd wediu hyfforddin dda a fydd yn cefnogi eich cynnydd tuag at fod yn athro rhagorol ac arloesol. Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff ysgolion yn cynnig cefnogaeth ragorol a sesiynau dysgu ysgogol yn y brifysgol ac yn yr ysgol ar leoliad. Bydd myfyrwyr ar y cwrs cyfrwng Cymraeg hwn yn cael eu gosod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a byddwn yn eich cefnogi ach annog i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach mewn lleoliad addysgol trwy gydol y cwrs.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.