Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Am y cwrs cyfrwng Saesneg, gweler Childhood and Youth Studies, X313.
Wrth wraidd y cwrs hwn mae plant a phobl ifanc yr 21ain ganrif fel actorion cymdeithasol: sydd â rhywbeth iw ddweud, gyda gwytnwch, gyda bywydau cymhleth ac syn brofiadol yng nghanol yr holl newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, addysgol a gwleidyddol syn digwydd yn y byd ou cwmpas. Maen gallu arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd yn cynnwys dysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela ar gyfraith lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.
Maer radd ddeina...
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Am y cwrs cyfrwng Saesneg, gweler Childhood and Youth Studies, X313.

Wrth wraidd y cwrs hwn mae plant a phobl ifanc yr 21ain ganrif fel actorion cymdeithasol: sydd â rhywbeth iw ddweud, gyda gwytnwch, gyda bywydau cymhleth ac syn brofiadol yng nghanol yr holl newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, addysgol a gwleidyddol syn digwydd yn y byd ou cwmpas. Maen gallu arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd yn cynnwys dysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela ar gyfraith lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.

Maer radd ddeinamig, amlddisgyblaethol hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau syn ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes, gan eich cynorthwyo i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys dysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela ar gyfraith. Mae gan ein tîm addysgu arbenigedd a chefndiroedd mewn seicoleg, cymdeithaseg, hawliau plant, ieithyddiaeth, addysg, fforenseg, iechyd a lles. Maer amgylchedd dysgu cyfoethog ac amrywiol hwn yn nodwedd unigryw on cwrs, ac yn rhoir cyfle i chi astudio plentyndod a phobl ifanc o nifer o safbwyntiau.

Maer cwrs 3 blynedd wedii gynllunio o gwmpas tri llwybr, gyda modiwlaun ymwneud â safbwyntiau seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol ar faterion syn berthnasol i blentyndod a phobl ifanc yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol. Maer flwyddyn gyntaf wedii chynllunio i roi sylfaen gref i chi ym mhob un or tri maes. Maer ail flwyddyn yn parhau i adeiladu ar y llinynnau hyn ac i ddatblygu ymarfer effeithiol drwy weithio gyda chyflogwyr yn y meysydd gwaith er mwyn datblygu gwybodaeth ymarferol a gwneud cysylltiadau pwysig â darpar gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn arwain at flwyddyn tri, lle gallwch astudio o leiaf bedwar pwnc a ddewisir or ystod o fodiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd ar draws y llwybrau astudio. Yn y flwyddyn olaf hon byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil pwysig syn eich galluogi i ddyfnhauch arbenigedd ach gwybodaeth yn eich maes dewisol. Maer cwrs hwn hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd, cyfleoedd i astudio dramor, yn ogystal â chyfleoedd i gyflwyno mewn cynadleddau, gan eich helpu i ddatblyguch sgiliau academaidd a chyflogadwyedd. Bob blwyddyn cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol.

Nod y radd hon mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yw rhoi sylw i’r galw cyfredol am arbenigwyr cymwysedig a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd-destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi a sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.