Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Am y cwrs cyfrwng Saesneg, gweler Childhood and Youth Studies and Sociology, X315.
Maer pynciau hyn yn eich galluogi i astudio materion syn effeithio ar fywydau plant yng nghyd-destun ehangach strwythurau cymdeithasol. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau syn berthnasol i blentyndod ac ieuenctid yn yr 21ain ganrif ac yn ymchwilio i fywyd cymdeithasol ar ffordd y maen dylanwadu ar ein hymddygiad, ein credoau an hunaniaeth. Byddwch yn ymdrin â chysylltiadau beunyddiol bywyd bob dydd, sefydliadau cymdeithasol mawr, mudiadau cymdeithasol a p...
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Am y cwrs cyfrwng Saesneg, gweler Childhood and Youth Studies and Sociology, X315.

Maer pynciau hyn yn eich galluogi i astudio materion syn effeithio ar fywydau plant yng nghyd-destun ehangach strwythurau cymdeithasol. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau syn berthnasol i blentyndod ac ieuenctid yn yr 21ain ganrif ac yn ymchwilio i fywyd cymdeithasol ar ffordd y maen dylanwadu ar ein hymddygiad, ein credoau an hunaniaeth. Byddwch yn ymdrin â chysylltiadau beunyddiol bywyd bob dydd, sefydliadau cymdeithasol mawr, mudiadau cymdeithasol a phrosesau byd-eang i gael gwell dealltwriaeth ar effaith y byd cymdeithasol ar blant a phobl ifanc.

Mae Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg yn cyd-fynd â’i gilydd yn naturiol. Maent yn cefnogi dull cyfun o ddeall datblygiad plant a phobl ifanc o safbwyntiau cymdeithasol, gan annog dealltwriaeth or elfennau hyn yn y meysydd syn effeithio fwyaf ar fywydau plant a phobl ifanc, megis eu haddysg, eu rhyngweithio â chyfoedion ac oedolion au lles. Maer cwrs hwn yn eich galluogi i astudio Cymdeithaseg fel rhan o radd gydanrhydedd (50% Cymdeithaseg, 50% Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid).

Ymchwil i fywyd cymdeithasol ar ffordd y maen siapio ymddygiad, credoau a hunaniaeth pobl yw cymdeithaseg. Maer maes yn cynnwys archwilio ymwneud beunyddiol pobl âi gilydd, wyneb yn wyneb, sefydliadau cymdeithasol mawr, mudiadau cymdeithasol a phrosesau byd-eang. Trwy ddeall y byd cymdeithasol, rydym yn ennill gwell dealltwriaeth ohonom ein hunain an sefyllfaoedd cymdeithasol ein hunain. Yn y rhan Plentyndod ac Ieuenctid y cwrs, byddwch yn astudio pynciau arloesol, a arweinir gan staff addysg profiadol, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio â phlant mewn cyd-destun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud â bywydau plant.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.