This is a Welsh-medium course. See Sociology and Social Policy LL34 for the English-medium course. Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Gweler Sociology and Social Policy LL34 am y cwrs cyfrwng Saesneg.
Mae’r radd BA Anrhydedd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn unigryw i Gymru. Bangor yw’r unig Brifysgol yng Nghymru lle gellwch astudior gwyddorau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyflawn. Mae astudio Cymdeithaseg â Pholisi Cymdeithasol fel gradd yn gyfuniad delfrydol a phoblogaidd ymhlith myfyrwyr.
Wrth ddilyn Cymdeithaseg â Pholisi Cymdeithasol cewch gyfle...
This is a Welsh-medium course. See Sociology and Social Policy LL34 for the English-medium course. Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Gweler Sociology and Social Policy LL34 am y cwrs cyfrwng Saesneg.

Mae’r radd BA Anrhydedd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn unigryw i Gymru. Bangor yw’r unig Brifysgol yng Nghymru lle gellwch astudior gwyddorau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyflawn. Mae astudio Cymdeithaseg â Pholisi Cymdeithasol fel gradd yn gyfuniad delfrydol a phoblogaidd ymhlith myfyrwyr.

Wrth ddilyn Cymdeithaseg â Pholisi Cymdeithasol cewch gyfle i ddeall a thrafod sut mae cymdeithas yn gweithio, sut a pham mae pobl yn ymddwyn fel y maent, ac archwilio theorïau ac ymchwil a ddefnyddir i ddyfeisio, gweithredu a gwerthuso polisïau i ddelio â phroblemau cymdeithasol dwys. Er mwyn cwrdd a diddordebau gwahanol mae rhaglen y radd wedi ei datblygu i ddarparu myfyrwyr â dealltwriaeth o faterion cymdeithasol ynghyd â datblygu sgiliau a galluoedd craidd a throsglwyddadwy.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen) L30F.