Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen academaidd gadarn i chi yn Gymraeg (dwy ran o dair or cwrs) ar cyfle i astudio modiwlau ymarferol ac academaidd mewn newyddiaduraeth. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o agweddau sylfaenol ar newyddiaduraeth a hynny heb gaur drws ar yrfa yn un or meysydd lu lle mae gradd yn y Gymraeg yn ddymunol. Gyda chyfuniad o sgiliau ysgrifennu academaidd a phroffesiynol, maer gyrfaoedd posibl yn cynnwys cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, llywodraeth leol, darlledu a newyddiaduraeth, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a threftadaeth.
Mae BA Cymraeg gyda Newyd...

Mae BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth yn darparu sylfaen academaidd gadarn mewn Cymraeg (dwy ran o dair o’ch cwrs) ynghyd âr cyfle i astudio modiwlau ymarferol ac academaidd mewn newyddiaduraeth (traean o’ch cwrs). Dysgwch am ofynion creiddiol newyddiaduraeth, heb gaur drws ar y llu o feysydd eraill sy’n gofyn am radd yn y Gymraeg. I rai sy’n meddu ar gyfuniad o sgiliau uchel mewn ysgrifennu academaidd a phroffesiynol, mae gyrfaoedd posib yn cynnwys newyddiaduraeth, darlledu, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, cyfieithu, llywodraeth leol, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a threftadaeth.

Iaith fyw y presennol yn hytrach na chrair or gorffennol ywr Gymraeg ym Mangor. Yma cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Os dymunwch, bydd cyfle i chi ddilyn eich diddordebau creadigol o dan arweiniad ysgrifenwyr a beirdd profiadol. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.