Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen academaidd gadarn i chi yn Gymraeg (dwy ran o dair or cwrs) ar cyfle i astudio modiwlau ymarferol ac academaidd mewn newyddiaduraeth. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o agweddau sylfaenol ar newyddiaduraeth a hynny heb gaur drws ar yrfa yn un or meysydd lu lle mae gradd yn y Gymraeg yn ddymunol. Gyda chyfuniad o sgiliau ysgrifennu academaidd a phroffesiynol, maer gyrfaoedd posibl yn cynnwys cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, llywodraeth leol, darlledu a newyddiaduraeth, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a threftadaeth.
Mae BA Cymraeg gyda Newyd...
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen academaidd gadarn i chi yn Gymraeg (dwy ran o dair or cwrs) ar cyfle i astudio modiwlau ymarferol ac academaidd mewn newyddiaduraeth. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o agweddau sylfaenol ar newyddiaduraeth a hynny heb gaur drws ar yrfa yn un or meysydd lu lle mae gradd yn y Gymraeg yn ddymunol. Gyda chyfuniad o sgiliau ysgrifennu academaidd a phroffesiynol, maer gyrfaoedd posibl yn cynnwys cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, llywodraeth leol, darlledu a newyddiaduraeth, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a threftadaeth.

Mae BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth yn darparu sylfaen academaidd gadarn mewn Cymraeg (dwy ran o dair o’ch cwrs) ynghyd âr cyfle i astudio modiwlau ymarferol ac academaidd mewn newyddiaduraeth (traean o’ch cwrs). Dysgwch am ofynion creiddiol newyddiaduraeth, heb gaur drws ar y llu o feysydd eraill sy’n gofyn am radd yn y Gymraeg. I rai sy’n meddu ar gyfuniad o sgiliau uchel mewn ysgrifennu academaidd a phroffesiynol, mae gyrfaoedd posib yn cynnwys newyddiaduraeth, darlledu, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, cyfieithu, llywodraeth leol, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a threftadaeth.

Iaith fyw y presennol yn hytrach na chrair or gorffennol ywr Gymraeg ym Mangor. Yma cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Os dymunwch, bydd cyfle i chi ddilyn eich diddordebau creadigol o dan arweiniad ysgrifenwyr a beirdd profiadol. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site
Provider Details
Codes/info
Course Code
Q5P5
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
UCAS Tariff104 128 Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher). Scottish HigherIsafswm o 5 Scottish Highers - efallai y bydd angen rhai graddau pwnc-benodol/Efallai y bydd angen Advanced Highers. Minimum of 5 Scottish Highers - some subject specific grades/Advanced Highers may be required. Access to HE DiplomaCwrs mynediad gydag elfen o Gymraeg. Pasio yn ofynnol. Access course with Welsh elements. Pass required. International Baccalaureate Diploma ProgrammePasio yn ofynnol. Gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg. Pass required. Including grade H5 in Welsh. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DMM DDM Byddwn hefyd yn ystyried cymwysterau BTEC eraill ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will also consider other BTEC qualifications in conjunction with other level 3 qualifications. OCR Cambridge Technical Extended DiplomaExtended ProjectGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Points can include a relevant Extended Project (EPQ) but must include a minimum 2 full A-levels, or equivalent. Please contact us for more information. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will accept this qualification in conjunction with other level 3 qualifications. A levelGan gynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Celfyddydau neu Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Ffrangeg, Almaeneg, Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol. Including a grade B in Welsh (or a grade B in an Arts or Humanities subject studied through the medium of Welsh - e.g. French, German, History, Geography, Religious Studies). General Studies and Key Skills not normally accepted. T LevelDerbynnir cymwysterau Lefel T fesul achos. T Level qualifications are accepted on a case-by -case basis. |
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
While there's currently no scheduled events, head over to the university's website to find out how to stay up to date with their open days and more.
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Region | Costs | Academic Year | Year | |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2024/25 | Year 1 |
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.