










Maer cwrs hwn yn eich galluogi i astudior cysylltiadau sydd rhwng hanes, llenyddiaeth ac iaith. Cewch astudio modiwlau hanes Cymru a dewis hefyd o blith modiwlau syn ymdrin â hanes Prydain, Ewrop ar byd ehangach. Maer ddarpariaeth Gymraeg yn amrywio o chwedlaur Mabinogi i lenyddiaeth gyfoes. Bydd eich astudiaethau ieithyddol yn cwmpasu hanes y Gymraeg ai defnydd ymarferol at fyd gwaith wrth baratoi ar gyfer cyflogaeth mewn meysydd fel y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, cyfieithu ar celfyddydau.
Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwy...
Maer cwrs hwn yn eich galluogi i astudior cysylltiadau sydd rhwng hanes, llenyddiaeth ac iaith. Cewch astudio modiwlau hanes Cymru a dewis hefyd o blith modiwlau syn ymdrin â hanes Prydain, Ewrop ar byd ehangach. Maer ddarpariaeth Gymraeg yn amrywio o chwedlaur Mabinogi i lenyddiaeth gyfoes. Bydd eich astudiaethau ieithyddol yn cwmpasu hanes y Gymraeg ai defnydd ymarferol at fyd gwaith wrth baratoi ar gyfer cyflogaeth mewn meysydd fel y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, cyfieithu ar celfyddydau.<br/><br/>Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.<br/><br/>Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565 neu History (with Foundation Year) V10F.