Ar y cwrs cyd-anrhydedd hwn, bydd eich modiwlaun cael eu rhannu rhwng Cymraeg ac Ieithyddiaeth. Mae Cymraeg yn faes eang syn cwmpasu chwedlaur Mabinogi a gwaith ôl-fodernaidd awduron fel Mihangel Morgan. Ieithyddiaeth ywr astudiaeth o strwythur iaith, sut y caiff ieithoedd eu caffael, sut y cânt eu defnyddio, a sut y gall nam ieithyddol amharu arnynt. Wrth i Gymru gofleidio dwyieithrwydd fwyfwy byddwch hefyd yn astudio defnydd proffesiynol y Gymraeg ac yn anelu at yrfa yn y sectorau marchnata, llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, cyfieithu ar celfyddydau.
Byddwch ...

Byddwch yn astudior pynciau hyn mewn canolfan sydd ag enw da drwyr byd ar gyfer astudio Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd a Dwyieithrwydd, a honno wedi ei lleoli mewn ardal lle maer Gymraeg yn iaith gyntaf ir mwyafrif. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd hynod werthfawr i wneud gwaith maes mewn meysydd fel dwyieithrwydd, caffael a throsglwyddo iaith, a sut mae plant yn ymwneud ag iaith.

O gyfuno Cymraeg ac Ieithyddiaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau gwyddonol syn briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sut i ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth, ac yn dod i ddeall mwy am hanes a chymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Cyfoethogir hyn trwy edrych ar ddatblygiadau ieithyddol yn fyd-eang, a dod i ddeall yn wyddonol sut y mae iaith yn cael ei defnyddio ai phrosesu gan unigolion a chymunedau, gan gynnwys rhai dwyieithog.

Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennun hyderus ac yn effeithiol, i gyfieithu a sgriptio, ac o gasglu a dadansoddi data i gyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn modd eglur, trefnus ac effeithiol. Maer cwrs hwn yn cynnig cyfle arbennig i gyfunor llenyddol, y creadigol, yr ieithyddol ar gwyddonol. Yn sicr, mae amrywiaeth y cwrs yn eithriadol o werthfawr, ar ddau bwnc yn cynnig rhychwant eang o sgiliau a gwybodaeth i chi.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu English Language and English Literature (with Foundation Year) QQCF.