Cymraeg BA (Hons)
Course Overview - Cymraeg BA (Hons)
Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn archwilio’r berthynas rhwng iaith, hunaniaeth a chymdeithas a’r cysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n siapio’r Gymraeg a phrofiadau ei siaradwyr.
Gyda’n rhaglen Cymraeg (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant. Byddwch yn meithrin sgiliau lefel uchel mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig syn berthnasol ir Gymru gyfoes a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn f...
Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn archwilio’r berthynas rhwng iaith, hunaniaeth a chymdeithas a’r cysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n siapio’r Gymraeg a phrofiadau ei siaradwyr.

Gyda’n rhaglen Cymraeg (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant. Byddwch yn meithrin sgiliau lefel uchel mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig syn berthnasol ir Gymru gyfoes a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â’r cyfleon a’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg fel iaith leiafrifol mewn ffordd eangfrydig a chydweithredol, gydag ystyriaeth i bwysigrwydd cynaliadwyedd diwylliannol ac amgylcheddol.

Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os ywr Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn dilyn modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf i ymarfer a datblygu eich gwybodaeth ieithyddol a’ch sgiliau cyfathrebu. Wedi hynny, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd ar gyfer modiwlaur ail a’r drydedd flwyddyn, gyda chefnogaeth bellach i fyfyrwyr ail iaith ar ffurf tiwtorialau iaith a chyfathrebu.

Asgwrn cefn y radd yw ein modiwlau craidd a fydd yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer archwilio iaith, llenyddiaeth, hunaniaeth a chynaliadwyedd mewn cyd-destunau hanesyddol a chyfoes. Yn ogystal, mae ein modiwlau dewisol yn rhoi’r cyfle ichi arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu broffesiynol, gan gynnwys polisi iaith ac ysgrifennu creadigol. Hefyd, byddwch yn meithrin eich sgiliau proffesiynol a’ch dealltwriaeth o anghenion y Gymraeg yn y gweithle drwy ymgymryd â lleoliad gwaith lle defnyddir y Gymraeg. Yn y flwyddyn olaf, cewch y cyfle i roi eich holl sgiliau ar waith drwy ymgymryd â phrosiect ymchwil neu bortffolio creadigol, lle byddwch yn cymryd perchnogaeth o’r pwnc a’ch siwrne addysgol drwy ddylunio a chynnal prosiect ar faes och dewis chi syn ymwneud âr Gymraeg. Dyma gyfle ichi arddangos eich angerdd, eich hyder a’ch mewnwelediad, wrth ddangos sut y gall disgyblaeth y Gymraeg gyfrannu at fynd ir afael â heriau lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu a dadansoddi beirniadol. Byddwch hefyd yn ymwybodol or problemau a’r heriau ieithyddol a diwylliannol syn wynebu cymdeithasau amlieithog cyfoes mewn cyd-destun byd-eang, a bydd gennych y syniadau ar hyder sydd eu hangen iw datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.

Nodweddion Unigryw’r Rhaglen
• Dilyn eich diddordebau: Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth.
• Meithrin annibyniaeth barn: Ymdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau mewn ffordd annibynnol ac eangfrydig.
• Magu hyder yn y gweithle: Dewch i ddeall y cyfleon ar heriau syn wynebur Gymraeg mewn cyd-destunau proffesiynol a datblygwch eich sgiliau ymarferol drwy ddefnyddior Gymraeg ar leoliad profiad gwaith.
• Cyfathrebu’n effeithiol: Rhowch eich dealltwriaeth am y Gymraeg a’i chyweiriau ar waith ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth lunio a chyflwyno eich syniadau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
• Cyfrannu at gymuned Gymraeg fywiog: Byddwch yn rhan o gymuned glos, gynhwysol o siaradwyr Cymraeg o bob cefndir a chyfrannwch at ffyniant y Gymraeg yn y brifddinas.
Course Information
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
28/09/2026
Campus
Main Site - Cardiff
Application Details
14 January
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
Q560
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
Entry Requirements
UCAS Tariff
Not Accepted
International Baccalaureate Diploma Programme
30
28
30-28 overall or 655-555 in 3 HL subjects. You must also have a Welsh language qualification equivalent to grade C at A-level.
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
DM in a BTEC Diploma in Humanities or Social Science subjects and grade B in A-level Welsh First or Second Language.
GCSE/National 4/National 5
You must have: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements.
Extended Project
A
For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example an AAB offer would be “AAB from 3 A levels or ABB from 3 A levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met.
A level
B,B,C
C,C,C
Must include Welsh First or Second Language.
T Level
Acceptance of T Levels for this programme will be considered on a case-by-case basis by the Academic School. Consideration will be given to the T Level grade/subject and grades/subjects achieved at GCSE/Level 2.
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (last awarded Summer 2024)
The Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in lieu of one A Level at the A Level grades specified, excluding any subject specific requirements.
WJEC Level 3 Advanced Skills Baccalaureate Wales
The Advanced Skills Baccalaureate Wales will be accepted in lieu of one A level at the A level grades specified, excluding any subject specific requirements.
Search Undergraduate Courses at Cardiff University
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Fees and funding
| Region | Costs | Academic Year | Year |

| England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,535 | 2026/27 | Year 1 |
| EU, International | £24,700 | 2026/27 | Year 1 |

.jpg)

,-Bristol.jpg)