Mae’r cwrs BSc Rheoli Busnes a’r Gymraeg yn un arloesol a modern sy’n ceisio cyfuno prif elfennau gradd Rheoli Busnes ag astudio’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd o fewn y farchnad lafur newidiol yng Nghymru. Bwriedir i’r cyfuniad hwn gwella amrywiaeth y cyfleoedd gwaith proffesiynol sydd ar gael i raddedigion wrth roi addysg amlddisgyblaethol ac eang ym meysydd Rheoli Busnes a’r Gymraeg, yn ogystal â chynnig opsiynau hyblyg i fyfyrwyr sydd am ddilyn pynciau gwahanol sy’n datblygu sgiliau iaith.
Drwy astudio Rheoli Busnes, byddwch yn mei...
Mae’r cwrs BSc Rheoli Busnes a’r Gymraeg yn un arloesol a modern sy’n ceisio cyfuno prif elfennau gradd Rheoli Busnes ag astudio’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd o fewn y farchnad lafur newidiol yng Nghymru. Bwriedir i’r cyfuniad hwn gwella amrywiaeth y cyfleoedd gwaith proffesiynol sydd ar gael i raddedigion wrth roi addysg amlddisgyblaethol ac eang ym meysydd Rheoli Busnes a’r Gymraeg, yn ogystal â chynnig opsiynau hyblyg i fyfyrwyr sydd am ddilyn pynciau gwahanol sy’n datblygu sgiliau iaith.

Drwy astudio Rheoli Busnes, byddwch yn meithrin gwybodaeth drylwyr am y prif ddisgyblaethau sy’n berthnasol i reoli a busnes, ynghyd â gwerthfawrogiad o’r gwahanol feysydd swyddogaethol sy’n rhan o sefydliadau busnes. Felly, byddwch yn datblygu craidd cadarn o wybodaeth ym maes Rheoli Busnes a fydd yn eich galluogi i adeiladu ar sylfeini cryf i arbenigo mewn meysydd sy’n ennyn eich diddordeb ac yn adlewyrchu eich dyheadau o ran gyrfa. Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel yn yr iaith ei hun, yn ogystal â datblygu dealltwriaeth drylwyr o’i lle yn y Gymru gyfoes. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, cewch gyfle i ddatblygu arbenigedd drwy ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Maer rhain yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd sy’n arbennig o berthnasol i reoli a busnes, gan gynnwys cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, cymdeithaseg iaith, sosioieithyddiaeth, technoleg iaith a chyfieithu proffesiynol, yn ogystal â phynciau llenyddol, ieithyddol a diwylliannol. Yn benodol, mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i gael profiad gwaith mewn amgylchedd busnes proffesiynol ac yn galluogi myfyrwyr i roi’r wybodaeth a ddatblygwyd yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o wneud y cwrs ar waith mewn lleoliad proffesiynol penodol.
Mae nifer o synergeddau rhwng y ddwy agwedd ar y cwrs, fel rôl y Gymraeg yn y gweithle modern, ei lle mewn economi ddigidol a rôl marchnata wrth ei hyrwyddo, i enwi ond ychydig. Mae galw mawr am raddedigion sydd â sgiliau rheoli busnes yn ogystal â sgiliau Cymraeg ar lefel uchel. Caerdydd yw prifddinas gwleidyddiaeth, busnes a chyfryngau Cymru, a bydd y cwrs yn gallu manteisio ar gysylltiadau agos y ddwy Ysgol âr diwydiant drwy ddefnyddio’r rhaglen lleoliadau gwaith.

Yn gyffredinol, maer radd Rheoli Busnes ar Gymraeg (gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol) yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn busnes ac yn datblygu eu gallu i weithion ddwyieithog ar lefel uchel yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd myfyrwyr sy’n gwneud y cwrs hwn yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Cymhelliant o £500 y flwyddyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan y byddant yn astudio o leiaf 33% (40 o gredydau’r flwyddyn) o bwnc yr ysgoloriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel arfer, bydd Ysgoloriaeth Cymhelliant am gyfnod o dair blynedd. Os bydd myfyriwr yn gwneud cwrs pedair blynedd, bydd Ysgoloriaeth Cymhelliant ar gael am dair or blynyddoedd hynny.
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Sandwich
Duration
4 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site - Cardiff
29 January
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
NQ28
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
Not Accepted
34
31
34-31 overall or 666-665 in 3 HL subjects. You must also have demonstrable Welsh language skills.
DD in a BTEC Diploma in Business and grade B in A-level Welsh First Language. Second language Welsh students are not eligible for this programme.
You must have or be working towards: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements. - GCSE Maths gra
A
For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example an AAB offer would be “AAB from 3 A levels or ABB from 3 A levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met.
A,A,B
B,B,B
Must include Welsh First Language. Second language Welsh students are not eligible for this programme.
Not Accepted
The Advanced Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in lieu of one A Level at the A Level grades specified, excluding any subject specific requirements.
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,535 | 2025/26 | Year 1 |
EU, International | £23,700 | 2025/26 | Year 1 |