Ydych chi eisiau dysgu mewn ysgol gynradd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i addysg pobl ifanc? Ydych chi’n angerddol am addysg gynradd ac yn awyddus i rannu’ch brwdfrydedd gydag eraill?
Mae’r radd BA (Anrh) Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich galluogi i ddod yn athro/athrawes gymwysedig, hyderus, arloesol sydd â’r gallu i adlewyrchu’n gritigol, o fewn tair blynedd.
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn y brifysgol ac mewn ysgolion cynradd er mwyn darparu profiadau dysgu ac addysgu dilys fydd yn paratoi athrawon dan hyff...
Ydych chi eisiau dysgu mewn ysgol gynradd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i addysg pobl ifanc? Ydych chi’n angerddol am addysg gynradd ac yn awyddus i rannu’ch brwdfrydedd gydag eraill?

Mae’r radd BA (Anrh) Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich galluogi i ddod yn athro/athrawes gymwysedig, hyderus, arloesol sydd â’r gallu i adlewyrchu’n gritigol, o fewn tair blynedd.

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn y brifysgol ac mewn ysgolion cynradd er mwyn darparu profiadau dysgu ac addysgu dilys fydd yn paratoi athrawon dan hyfforddiant i ysbrydoli dysgwyr i gyflawni pedwar diben Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth yn yr Ardaloedd Dysgu a Phrofiad, sgiliau ymarferol, sgiliau ehangach a chymwyseddau proffesiynol sydd angen i fod yn athro/athrawes arbennig o effeithiol.