Cymraeg ac Ieithyddiaeth Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Course Overview - Cymraeg ac Ieithyddiaeth Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Ar ein BA mewn Cymraeg ac Ieithyddiaeth, byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant, ac yn ymgysylltu â chwestiynau allweddol ar draws ystod eang o bynciau ieithyddol. Byddwch yn cyflawni lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol sydd wedi'u datblygu'n dda sy'n berthnasol i'r Gymru fodern.
Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddw...
Ar ein BA mewn Cymraeg ac Ieithyddiaeth, byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant, ac yn ymgysylltu â chwestiynau allweddol ar draws ystod eang o bynciau ieithyddol. Byddwch yn cyflawni lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol sydd wedi'u datblygu'n dda sy'n berthnasol i'r Gymru fodern.
Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y mwyafrif o fodiwlau'r ail flwyddyn, a holl fodiwlau'r flwyddyn olaf. Mae opsiynau modiwlau yn caniatáu ichi archwilio pynciau megis ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.
Mewn ieithyddiaeth, byddwch yn cael sylfaen drylwyr wrth ddadansoddi iaith (gan gynnwys agweddau allweddol ar seineg, morffoleg a chystrawen). Byddwch hefyd yn gallu dewis modiwlau ar bynciau amrywiol, gan ganiatáu i chi fynd ar drywydd eich diddordebau a’r hyn rydych chi’n angerddol amdano, defnyddio'r dulliau diweddaraf i astudio gyda llygad beirniadol, a gwneud cysylltiadau â dadleuon yn y maes cyhoeddus.
Gan ennill sgiliau gwella gyrfa, byddwch yn cael y cyfle i gynhyrchu gwahanol fathau o destunau a gweithio gyda meddalwedd arbenigol. Byddwch yn ennill sgiliau o ddadansoddi enghreifftiau o iaith yn y byd go iawn ac yn dysgu sut i lunio dadleuon a chyfleu syniadau i wahanol gynulleidfaoedd. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol, i ddatblygu eich hyder a'ch sgiliau proffesiynol. Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â'r Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth.
Gan raddio gydag ystod eang o sgiliau academaidd, ieithyddol ac ymarferol – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yr hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun mawr, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi gan gyflogwyr a byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i ddilyn ystod o yrfaoedd. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.
Nodweddion Unigryw’r Rhaglen
Y byd o'ch cwmpas
Cyfunwch eich gwybodaeth am y Gymraeg ac ieithyddiaeth, gan ganolbwyntio ar eu cymhwysiad i'r byd cymdeithasol.
Estyn allan
Mae amrywiaeth eang o fodiwlau yn y Gymraeg ac ieithyddiaeth yn eich galluogi i archwilio eich diddordebau a darganfod rhai newydd.
Canolbwyntio ar y dyfodol
Datblygwch sgiliau cyflogadwyedd y mae galw amdanynt, gan wella eich rhagolygon gyrfa mewn ystod eang o feysydd.
Cymraeg yn y gweithle
Magu eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.
Cyfathrebu'n effeithiol
Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a'ch dadleuon.
Course Information
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
2027-09-27
Campus
Main Site - Cardiff
Application Details
13 January
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
A72-E38
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
Entry Requirements
A level
A,B,B
B,B,C
Must include grade B in Welsh First or Second Language.
T Level
Acceptance of T Levels for this programme will be considered on a case-by-case basis by the Academic School. Consideration will be given to the T Level grade/subject and grades/subjects achieved at GCSE/Level 2.
UCAS Tariff
Not accepted
GCSE/National 4/National 5
You must have: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements.
Extended Project
For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example, an AAB offer would be “AAB from 3 A-levels or ABB from 3 A-levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met.
International Baccalaureate Diploma Programme
32.0
30.0
32-30 overall or 665-655 in 3 HL subjects. You must also have a Welsh language qualification equivalent to grade B at A-level.
WJEC Level 3 Advanced Skills Baccalaureate Wales
The Advanced Skills Baccalaureate Wales will be accepted in lieu of one A level at the A level grades specified, excluding any subject specific requirements.
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
DD-DM in a BTEC Diploma in Humanities or Social Science subjects and grade B in A-level Welsh First or Second Language.
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)
The Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in place of one A-level at the A-level grades specified, excluding any subject specific requirements.
Search Undergraduate Courses at Cardiff University
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Fees and funding
| Region | Costs | Academic Year | Year |
|---|---|---|---|
| Channel Islands, England, Northern Ireland, Wales, Scotland, Republic of Ireland | £9,790 | 2026/27 | Year 1 |
| EU, International | £24,700 | 2026/27 | Year 1 |


























































,-Bristol.jpg)

















