Perfformio BA (Hons)
Course Overview - Perfformio BA (Hons)
Mae Perfformio yn gwrs cyfrwng Cymraeg unigryw a deinameg a addysgir dros ddwy flynedd. Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n angerddol am Actio, Canu, Cerddoriaeth, Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol. Mae’n cynnig addysg gynhwysfawr yn y meysydd hyn, gan eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y celfyddydau perfformio.
Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i ddatblygu perfformwyr amlddisgyblaethol a hyderus. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â’r potensial i ragori mewn amrywiaeth o leoliadau, boed yn y theatr, neuaddau cyngerdd, radio neu deledu.
Mae ...

Mae ein cwricwlwm yn uchelgeisiol ac wedi’i gynllunio’n ofalus i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiadau cyfoethog, amserol ac amrywiol. Bydd y dull hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyfleoedd gyrfa lluosog yn y celfyddydau perfformio. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ystod eang o sgiliau ymarferol a fydd yn eich helpu i ddod yn berfformiwr amryddawn. Bydd hyn eich galluogi i gyfrannu’n greadigol ac yn hyderus ar draws llawer o wahanol gyd-destunau.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant dros ddwy flynedd y cwrs. Bydd hyn eich helpu i ddeall gofynion y diwydiant a’ch paratoi i fanteisio ar yr angen cynyddol am berfformwyr medrus, amryddawn a dibynadwy. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gydweithio ac ymarfer creadigol, gan eich annog i archwilio arferion arloesol yn eich gwaith perfformio.

Yn ychwanegol i hyfforddiant ymarferol, mae’r cwrs yn cynnwys nifer o gyfleoedd arddangos. Bydd y rhain yn caniatáu i chi gyflwyno’ch gwaith i gynulleidfa ehangach ac adeiladu portffolio proffesiynol. Mae’r cyfuniad hwn o astudio academaidd a phrofiad ymarferol yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i weithio ym myd proffesiynol perfformio.

Mae BA Perfformio wedi’i gynllunio i feithrin eich twf fel perfformiwr sy’n hyddysg yn y tueddiadau a’r arferion diweddaraf yn y diwylliant cyfoes. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu’r arbenigedd a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd yn ymwneud â pherfformio.
Course Information
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
2 Years
Start Date
21/09/2026
Campus
Cardiff (Caerdydd)
Application Details
14 January
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
C68M
Institution Code
T80
Points of Entry
Year 1
Entry Requirements
UCAS Tariff
96
112
Search Undergraduate Courses at University of Wales Trinity Saint David (UWTSD)
Find more courses from University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) with our undergraduate course search.
Fees and funding
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,535 | 2025/26 | Year 1 |
EU, International | £15,600 | 2025/26 | Year 1 |